Gwasanaethau Anableddau / Gwasanaethau Cymorth Dysgu
Croeso i’r Adran Wasanaethau Anableddau / Gwasanaethau Cymorth Dysgu
Os oes gennych unrhyw anableddau, rydym ni yma i helpu ateb eich gofynion cymorth dysgu er mwyn eich galluogi chi i astudio. Os ydych yn ystyried astudio gyda ni, yn ymgeisydd neu yn ddysgwr cyfredol, mae ein Tîm Cymorth Dysgu yma i roi cyngor a chynnig cymorth.
Gall Anabledd olygu amryw o bethau i amryw o bobl. Gall gynnwys cyflyrau corfforol neu anabledd sy’n effeithio ar y synhwyrau, cyflwr meddygol hirdymor ( gan gynnwys anawsterau meddygol cydnabyddedig megis iselder neu anhwylder gorbryder), cyflwr niwroamrywiaeth ,megis dyslecsia, dyspracsia, ADHD neu awtistiaeth. Beth bynnag yw eich anabledd ein nod ni yw eich galluogi chi i gymryd rhan lawn ym mhob gweithgaredd ac i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i wireddu eich potensial.
Os oes gennych anabledd, neu eich bod yn meddwl fod gennych anabledd, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu I gael sgwrs fel gallwn roi cymorth i chi.
Gellir gweld ein polisi anableddau Polisi Anableddau
Gwasanaethau Anableddau / Cymorth Dysgu
Siân Trotman
Rheolwr Cymorth Dysgu
Parchg Helen Rees
Tiwtor mewn Addysg Ddiwinyddol
Suzanne Robinson
Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Cymorth
Ystyried Astudio yn Athrofa Padarn Sant
Os ydych yn ystyried astudio yn Athrofa Padarn Sant ac eisiau gwybod mwy am y fath o gymorth byddech yn debygol o gael wrth astudio, byddem yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym ni’n hapus iawn i drafod ac ateb unrhyw gwestiynau. Os ydych yn pryderi am y broses derbyn, rhowch wybod i ni a gallwn roi’r cymorth priodol i chi.
Cyfleusterau ac Adnoddau Dysgu
Mae ein cyfnodau preswyl MA, rhaglen Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth a rhai o’n rhaglenni Gweinidogion Trwyddedig Newydd yn cael eu cynnal ar ein safle yng Nghaerdydd. Mae’n hen adeilad ac rydym wedi gwneud mor hygyrch â phosib. Yn y prif adeilad, mae yna lifft ar gael o’r llawr waelod i’r llawr cyntaf ac mae yna hefyd lifft staer i’r llawr ganol a’r llyfrgell. Mae yna rampiau hefyd. Mae yna nifer o ystafelloedd gwely hygyrch. Pan rydym yn defnyddio lleoliadau eraill o amgylch Cymru ein nod yw dewis lleoliadau sydd mor hygyrch â phosib.
Rydym wedi arfer ag ymdrin ag anghenion dietegol wedi ei achosi gan rhai anableddau ac mae ein cegin wedi ei hachredu gan Coeliac UK.
Cyflwynir rhai rhaglenni ar-lein. Gallwn wneud nifer o bethau er mwyn gwneud y rhain yn fwy hygyrch yn ddibynnol ar eich anabledd penodol.
Sut i gael cymorth
Gallwch ddatgan eich anabledd fel rhan o’r cais, neu ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut rydym yn rhoi cefnogi dygwyr fan hyn.
Fodd bynnag, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu I drafod eich sefyllfa. Byddan nhw yn medru eich cynghori am gais am gyllid i dalu tuag at y gost o unrhyw gymorth ychwanegol byddwch ei hangen. I ddysgwyr ar raglenni penodol, erbyn diwedd y broses, bydd gennych gynllun cymorth dysgu mewn lle. Bydd hyn yn galluogi staff tiwtora, y gofrestrfa a staff eraill ynghlwm â’ch astudiaethau i wybod pa addasiadau sydd ei hangen er mwyn eich cefnogi chi i gyflawni eich amcanion dysgu ar eich rhaglen.
Lwfans i Myfyrwyr ag Anableddau
Os ydych yn astudio ar raglen achrededig, mae’n debygol y byddwch yn medru cael cymorth sylweddol i’ch helpu chi gyda’ch astudiaethau. Grant yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl y gallwch wneud cais amdano, drwy Gyllid Myfyrwyr. Mae cyfanswm y cymorth yn amrywio yn ddibynnol ar le ydych chi wedi eich lleoli, Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Loegr. Mae hefyd yn ddibynnol ar eich anabledd. Rhai enghreifftiau o’r hyn ellir fod yn gymorth ar ei gyfer offer megis cyfrifiaduron ac argraffwyr, meddalwedd arbenigol, mentora a chymorth un-wrth-un.
Rydym ni yma i roi cymorth i chi drwy gydol y broses ymgeisio.
Am fwy o wybodaeth am y Lwfans Myfyrwyr Anabl:
Gogledd Iwerddon
Cyfrinachedd
Caiff fanylion eich anabledd dim ond ei rhannu gyda’r nifer priodol. Bydd eich cynllun cymorth dysgu ond yn nodi'r addasiadau rydych chi eich angen, a dim manylion eich anabledd. Os ydych yn fyfyriwr a noddir gan un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, neu gyflogwr, ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth am eich anabledd. Mae Athrofa Padarn Sant yn rhan o Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, ac o’r herwydd yn dod o dan ei pholisïau. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn gweithredu o dan un Polisi Diogelu Data a gellir dod o hyd iddo yn https://www.churchinwales.org.uk/privacy-notice/. Gweler manylion ar sut mae Athrofa Padarn Sant yn cadw eich data ar yr un linc o dan Hysbysiad Preifatrwydd: Myfyrwyr Padarn Sant, ynghyd â dogfennau eraill.