Ein Cynnig Cymraeg
Mae Athrofa Padarn Sant yn ymfalchïo yn y Gymraeg ac rydym wedi mabwysiadau’r egwyddor, y ddylsai ei gwaith o fewn Cymru drin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal. Rydym o’r gred bod cynnig gwasanaethau yn iaith dewisiol unigolion yn medru gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad yr unigolyn. Rydym eisiau annog unigolion i deimlo’n yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith. Byddwn yn cynnig gwasanaethau dwyieithog lle fo hynny’n bosib ac yn ymarferol.
Dyma uchafbwyntiau ein gwasanaethau Cymraeg:
- Mae croeso i chi gysylltu gyda ni dros y ffôn neu’n ysgrifenedig yn Gymraeg
- Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith
- Mae ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
- Gall myfyrwyr cael mynediad i adnoddau Cymraeg megis ffurflenni yn ogystal â chyflwyno aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyflwynir rhai elfennau o’r Gymraeg yn ystod addoliad
- Mae gan ddysgwyr a staff fynediad at gwrs Say Something in Welsh er mwyn Dysgu Cymraeg.
- Mae gan fyfyrwyr fynediad at ysgoloriaethau / chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a staff fynediad at sesiynau Datblygiad Proffesiynol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.