Parch Chris Burr
Cefais fy ngeni yn Nhredegar ac wedi byw yn Ne Cymru drwy gydol fy oes. Nid oeddwn o gefndir ffydd, ond deuthum yn Gristion yn fy arddegau cynnar, a chyhyd ac y gallaf gofio teimlais galwad i’r weinidogaeth.
Yn dilyn gweithio i’r wasanaeth sifil am 10 mlynedd, fel Archwilydd Yswiriant Cendlaaethol ac yna fel Rheolwr Hyfforddiant ac Addysg, erbyn fy 20au teimlais alwad cryfach nag erioed gan Dduw ac fe adawais fy ngyrfa i ddchrau hyffordi i fod yn offeiriad yng Nngholeg Sant Mihangel yn Llandaf fel anabyddwyd bryd hynny.
Enillais fy ngradd BTh yn 2001,a c fe wasanaethais fel curad yn Llantrisant cyn do yn Offeiriad a Chyfrfoldeb dros plwyf Pontypridd yn 2004. O’r fan honno fe ddeuthum yn Ficer Llys-faen yng Ngogledd Caerdydd yn 2010, cyn dechrau ar fy swydd presennol ym Mhadarn Sant yn 2019.
Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn seryddiaeth a theithio. Rwyf wedi datblygu cysylttiadau cryd a chymuned yn Mbale, yn nywrain Uganda ac rwy’n trefnu ac arwain pererindodau rheolaidd i’r Wlad Sanctaidd. er mwyn ymlacio rwy’n hoff o ddarllen ac a diddordeb mewn ffuglen trosedd (ac unrhyw beth megis PD James) neu noson yn y theatr. Rwy’n briod â Helen ac mae gennym bedwar o blant a ci o’r enw Honey.