Dr Monika Benitan
Mae gennyf brofiad bugeiliol helaeth ac wedi arwain timoedd mewn cyd-destunau amrywiol gan gynnwys rhanbarth Cymru a Lloegr elusen cenhadaeth plant dramor. Rwyf hefyd wedi bod yn ymgynghorydd ar ffurfiant bugeiliol oedolion a holwyddoreg(catechesis), ac yn gaplan prifysgol ac ysbyty. Roeddwn wrth fy modd gael y profiad o fod yn gyfarwyddwr canolfan encil yng Nghymru, ac arwain adran fugeiliol esgobaethol.
Cefais fy hyfforddiant dysgu yn Slofacia ac fe astudiais ddiwinyddiaeth ym mhrifysgolion Rhydychen a Lerpwl. Rwyf wedi dysgu modiwlau bugeiliol ym Mhrifysgol Hope Lerpwl ac wedi cydlynu rhaglen tystysgrif a diploma mewn gweinidogaeth fugeiliol mewn cydweithrediad â phrifysgol Loyola yn Chicago. Yn falenorol bûm yn gydymaith ymchwil yn Athrofa Ddiwinyddol Margaret Beauford yng Nghaergrawnt, yn ymchwilio pobl hynod sensitif, ac wedi hefyd hyfforddi fel hwylusydd a chyfarwyddwr ysbrydol a goruchwylydd.