Dr Siôn Aled Owen
Ychydig amdanaf i:
Fe’m ganwyd ym Mangor, Gwynedd, ond mae fy ngwreiddiau teuluol ar y ddwy ochr yn Ynys Môn a symudasom i fyw i Borthaethwy pan oeddwn yn un ar ddeg oed. Astudiais Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac wedi cyfnod yn gweithio ar Gynllun Trydan Dŵr Dinorwig ac fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bûm yn astudio diwinyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Bryste.
Ymhlith swyddi eraill, bûm yn gweithio fel Ysgrifennydd Ardal ar gyfer Esgobaethau Bangor, Llanelwy a Chaer i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys, yn darlithio mewn diwinyddiaeth yn Sarawak a Glasgow ac yn gwasanaethu fel Cyd-weinidog Eglwys Gymraeg Melbourne, Awstralia. Ar ôl dychwelyd i Gymru, gweithiais fel Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol ac Ysgogydd Eciwmeniaeth Leol Cytûn ac yna fel Swyddog Datblygu Menter Iaith Maelor. Rwyf hefyd wedi bod yn diwtor Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, Llundain ac Awstralia ac wedi sefydlu busnes cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd.
Rywsut, yng nghanol hyn’na i gyd (a nifer o swyddi arall nad oes gen i le i’w cofnodi!) llwyddais rywsut i ennill Doethuriaeth o Brifysgol Birmingham am astudiaeth o gyfathrebu yn ystod Ddiwygiad Crefyddol 1904-06 yng Nghymru ac MA mewn dwyieithrwydd a Doethuriaeth am ymchwil i ddefnydd plant ysgol o’r Gymraeg o Brifysgol Bangor.
Rwyf hefyd yn arwain addoliad ac yn pregethu gyda sawl enwad, yn Gymraeg a Saesneg.
Felly gallwch gasglu mai fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw diwinyddiaeth ac iaith ac mae fy swydd bresennol yn Athrofa Padarn Sant i mi’n cyfuno’r ddeubeth mewn modd cyffrous iawn. O fewn y meysydd eang yna, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diwinyddiaeth ymarferol ac mewn dwyieithrwydd, ac rwy’n arbennig o awyddus i archwilio ffyrdd o feithrin dwyieithrwydd deinamig a chreadigol yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn eciwmenaidd.
Ar ôl fy holl grwydriadau, rwyf bellach yn byw yn Wrecsam. Ymhlith fy niddordebau y tu hwnt i’r gwaith mae teithio (yn arbennig ar y trên), enwau lleoedd, cerdded cefn gwlad, gwleidyddiaeth a chathod – gyda dwy gath fach newydd gyrraedd yn creu digon o brysurdeb yn y tŷ ar hyn o bryd!
Rwyf hefyd yn fardd, a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol fwy o flynyddoedd yn ôl nac yr hoffaf feddwl, ac a gyhoeddodd dair cyfrol yn y Gymraeg, Dagrau Rhew, Cortynnau a Meirioli. Ers sawl blwyddyn rwyf hefyd yn barddoni yn Saesneg ac mae cyfrol ddwyieithog, gyda lluniau gan Iwan Bala, Rhwng Pla a Phla / Between the Plagues, newydd ei chyhoeddi.
O, ac un peth arall tra dwi’n cael brolio tipyn bach fel hyn, enillais dlws Mastermind Cymru yn 2008, felly os dach chi’n brin o aelod yn eich tîm cwis...
Gwaith a gyhoeddwyd:
Traethawd Doethuriaeth am y Diwygiad (Saesneg)
Traethawd Doethuriaeth am ddefnydd plant o’r Gymraeg (Saesneg)
Poster yn crynhoi’r ymchwil am ddefnydd plant o’r Gymraeg