Canon Ddr Manon Ceridwen James
Cefais fy magu yn Nefyn yn LIŷn. Astudiais Radd Dyniaethau Astudiaethau Crefydd, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Menywod ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd ac fe archwiliais alwedigaeth i weinidogaeth ordeiniedig wrth weithio yng Ngholeg Trefeca, canolfan gynadledda Bresbyteraidd. Yn ystod y cyfnod hwn fe’m dderbyniwyd i hyfforddi yn Ridely Hall, Caergrawnt lle astudiais radd Diwinyddiaeth yn y brifysgol drwy Goleg Selwyn. Fe’m hordeiniwyd yn ddiacon yn 1994 yng Nghadeirlan Bangor ac yn offeiriad yn 1994. Yn ystod fy nghyfnod cyntaf yn beriglor fe roeddwn yn cyfuno gweinidogaethu i bedwar Cymuned yn nyffryn Ogwen a bod yn Gyfarwyddwr Esgobaethol i Ordinandiaid. Rwyf wedi gweithio fel tiwtor hyfforddi gweinidogion, hyfforddiant cychwynnol i weinidogion a Chyfarwyddwr Gweinidogaeth. Rwyf wedi bod ynghlwm â hyfforddiant gweinidogaethol ers 2005 ac wedi dysgu Diwinyddiaeth Ymarferol, arwain addoliad, pregethu ac addysg oedolion.
Mae gen i dystysgrif ôl-radd mewn Addysg Oedolion a Myfyrdod Diwinyddol o Brifysgol Caer, Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth Ymarferol o Brifysgol Birmingham ac wedi cyhoeddi llyfr yn dilyn fy ymchwil.
Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau gwylio gemau peldroed, diwgyddiadau comedi gyda fy ngwr Dylan. Rydyn ni hefyd yn mwynhau cyngherddau, a charafanio, Rwyf hefyd yn darllen ac ysgrifennu cerddi ac wedi cyhoeddi casgliad yn ddiweddar ‘ Notes from a Eucharistic Life.
Rwyf hefyd yn gyd- olygydd Practical Thelolgy ( cyfnodolyn) ac yn Ganon Ddiwinydd Eglwys Gadeiriol Casnewydd ac yn Gydymaith Ychwil Anrhydeddus I Goleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.