Gwybodaeth Ceisiadau Astudiaethau Ôl-radd

Mae’r rhaglenni a gyflwynir gan Athrofa Padarn Sant yn ace leu dilysu gan Brifysgol Durham drwy bartneriaeth Common Awards. Gellir gweld gwybodaeth bellach am y bartneriaeth fan hyn
Mae Athrofa Padarn Sant wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses derbyniadau yn hawdd cael mynediad ato, yn deg, dryloyw, yn gyson ac yn rhoi profiad ymgeisio o safon dda i bob dysgwr.
Gwybodaeth bellach
Os ydych angen gwybodaeth bellach am unrhyw un o’n cyrsiau ôl-radd cysylltwch â
Tina Franklin Cydlynydd Rhaglenni ôl-radd:
tina.franklin@stpadarns.ac.uk
Gallwch hefyd gael fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-radd wrth glicio ar ei deitl isod:
Meini Prawf Derbyniadau
Dyma’r meini prawf mynediad ar gyfer rhaglenni ôl-radd
- MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth, a Cenhadaeth[1]
- MA Astudiaethau Caplaniaeth
- MA Cyfraith Eglwysig
Y meini prawf ar gyfer mynediad ar gyfer rhaglenni yw:
- Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill, o leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth y DU mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth neu bwnc perthynol Neu
- Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill gradd anrhydedd ail-ddosbarth y DU neu gyfwerth ac o leiaf Tystysgrif Addysg Uwch mewn
Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth, neu bwnc perthynol Neu - Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill o leiaf gradd ail-ddosbarth y DU (2:2) neu gyfwerth a phrofiad sylweddol ( o leiaf dwy flynedd)
mewn maes perthnasol. Neu - Profiad perthnasol sylweddol a darn o waith ysgrifenedig ar bwnc wedi’i gytuno gan Arweinydd y Rhaglen sydd yn arddangos ymgysylltiad ac
un maes astudio, y gallu i ddarllen, meddwl ac ysgrifennu ar lefel addas i ddechrau cymhwyster lefel 7.
1 Yn cynnwys llwybr i arbenigwyr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Ffioedd
Gellir gweld ffioedd ar gyfer pob rhaglen ar dudalen penodol y cwrs. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ddechrau bob tymor ar gyfer 1/3 o ffioedd y flwyddyn ac ar gyfer costau cyfnodau preswyl ac arlwyo.
Os ydych yn dymuno gwneud trefniadau gwahanol ar gyfer llety a /neu brydiau bwyd, cysylltwch Tina Franklin ar
tina.franklin@stpadarns.ac.uk
Mae Athrofa Padarn Sant yn y broses o gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr fel bod myfyrwyr yn medru ymgeisio am fenthyciadau a grantiau ôl-radd.
Mae trefniadau cyllid mewn lle ar gyfer y myfyrwyr yn hynny sy’n astudio rhaglen ôl-radd fel rhan o’i llwybr academaidd a gytunwyd ar gyfer ei hyfforddiant cychwynnol i’r weinidogaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru.
Gall aelodau o’r Eglwys yng Nghymru fod yn gymwys ar gyfer cymorth gyda ffioedd.
Cysylltwch â Kathryn Delderfield am fwy o fanylion:
kathryn.delderfield@stpadarns.ac.uk
Gwneud Cais
I gael pecyn cais, cysylltwch gyda Tina Franklin, Cydlynydd Rhaglenni Ôl-radd ar:
tina.franklin@stpadarns.ac.uk neu 02920 838009
Bydd pob cais yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Derbyniadau Athrofa Padarn Sant. Gweler fan hyn
Gwybodeth arall bydd ei hangen cyn gwneud cais
Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau yn berthnasol i’r cwrs chi’n ei hastudio ac i’r broses ymgeisio i astudio ym Mhadarn Sant. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig I; Polisi Cefnogaeth Dysgu, Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth , Cod Ymddygiad, Cytundeb Dysgwyr. Gellir gweld y rhain fan hyn
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler gwybodaeth ar sut mae Athrofa Padarn Sant yn defnyddio eich data fan hyn