Cyflwyniad i Gaplaniaeth Gofal Iechyd
Trosolwg o'r Cwrs Cyflwyniad i Gaplaniaeth Gofal Iechyd
Mae’r cwrs Cyflwyniad I Gaplaniaeth Goal Iechyd yn gwrs ymsefydlu i gaplaniaid a chaplaniaid gwirfoddol ynghlwm â gwaith iechyd neu ofal cymdeithasol. Wrth sôn am gaplaniaid rydym yn golygu pobl sy’n gweithio mewn adrannau caplaniaeth a / neu ofal ysbrydol, bugeiliol, gofal crefyddol y neu swyddi llawn amser, rhan amser neu swyddi anrhydeddus. Mae’r term Caplaniaid Gwirfoddol yn golygu pobl sy’n gwirfoddoli mewn adrannau o’r fath. Nid oes unrhyw ofynion mynediad academaidd. Mae croeso cynnes i Gaplaniaid a Gwirfoddolwyr I ymgeisio, waeth eu harbenigedd caplaniaeth, eu crefydd neu gredo.
Cynlluniwyd y cwrs ar brofiad gofal iechyd y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei seilio ar Fframwaith Gymwyseddau'r UKBHC. Mae’r cwrs yn cefnogi caplaniaid a gwirfoddolwyr er mwyn iddyn nhw ddatblygu yn ymarferwyr diogel ac effeithiol. Mae ein grwpiau ffocws gyda’r nos yn caniatáu myfyrwyr i weithio ochr yn ochr â chymheiriaid profiadol mewn awyrgylch cyfrinachol a chefnogol.
Sut Gyflwynir Cwrs Cyflwyno Caplaniaeth Gofal Iechyd
I gwrdd ag anghenion gweithwyr broffesiynol, bydd dysgu yn digwydd dros bum diwrnod i gaplaniaid a tair diwrnod i wirfoddolwyr. Bydd y cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal Dydd Sadwrn i Ddydd Mercher i gaplaniaid a Dydd Llun i Ddydd Mercher i wirfoddolwyr ar ein safle yng Nghaerdydd.
Mae ein llety yn en-suite a’r mae’r bwyd yn cael ei baratoi ar y safle.
Dyddiadau y Cyrsiau Nesaf
Dyddiad | Hyd y Cwrs |
---|---|
Dydd Sadwrn 8 Mawrth – Dydd Mercher 12 Mawrth | 5 diwrnod (yn dechrau gyda cinio am 12.30pm ar y Dydd Sadwr ac yn cloi gyda cinio am 12.30pm ar y dydd Mercher) |
Dyddiad | Hyd y Cwrs |
---|---|
Dydd Llun 10 Mawrth – Dydd Mercher 12 Mawrth |
3 days ( dechrau am 9am ddydd Llun ac yn cloi gyda cinio am 12.30pm ddydd Mercher) Mae croeso i gyfranogwyr gyrraedd ar y nos Sul am ddim cost ychwanaegol. |
Asesiad
Nis yw'r cwrs yn cael ei hasesu ar hyn o bryd, ond byddwch yn derbyn tystysgrif i rhoi yn eich cofnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Amrywiaeth
Er bod Athrofa Padarn Sant ag ethos nodweddiadol Cristnogol, byddwch yn astudio gyda chaplaniaid proffesiynol, sydd o ra natur yn dueddol fod yn groesawgar a pharchus tuag at safbwyntiau amrywiol eraill. Rydyn ni fel arfer yn gorffen pob diwrnod gyda myfyrdod dewisol neu weddi, felly dewch ac unrhyw ddeunyddiau yr hoffech ddefnyddio gyda’r grŵp gyda chi.
Ffioedd ar gyfer Cyflwyno Caplaniaeth Gofal Iechyd
Ein ffioedd ar gyfer Cyflwyniad i Gaplaniaaeth Gofal Iechyd y flwyddyn academaidd hon yw:
- £860.00 ( 5 diwrnod) Caplaniaid Llawn Amser, Rhan Amser a Chaplaniaid Anrhydeddus
- £330.00 ( 3 diwrnod) Gwirfoddolwyr yn unig
Bydd llefydd yn cael eu cynnig ar sail cyntaf i'r felin yn dilyn taliad o anfoneb. Mae'r holl gostau yn cynnwys Llety, Bwyd a'r dysgu.
Mwy o wybodaeth ac Ymgeisio
Mae Cyflwyniad i Gaplaniaeth Gofal Iechyd yn agored i gaplaniaid a gwirfoddolwyr â llai na dwy flynedd o brofiad
Gallwch lawr lwytho Llawlyfr y cwrs a hefyd Lawlyfr Paratoi o flaenllaw isod:
Cliciwch isod i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs ac fe ddewn yn ôl atoch cyn gynted a phosib.
Datblygiad Proffesiynol Pellach
Os hoffech hyfforddiant mwy sylweddol, yn dilyn dwy flynedd o brofiad fel caplan, gallwch ymgeisio ar ein rhaglen ôl-radd sef MA Astudiaethau Caplaniaeth
Gan ein bod a dros 20 mlynedd o brofiad o alluogi caplaniaid ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt mae yna ddigon o resymau dros ymuno gyda ni ym Mhadarn Sant.