Cyfraith Eglwysig
MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Mae'r gradd meistr MA Diwinyddiaethm Gweinidogaeth a Chenhadaeth wedi ei ddilysu gan Brifysgol Durham. Mae'r cwrs hwn yn ffocws o fewn y rhaglen hynny ac mae'r modiwlau wedi eu teilwra yn benodol i Ymarferwyr Cyfraith Ganonaidd. Dyma'r unig rhaglen Cyfraith Ganonaidd ôl-raddedig â ffocws Anglicanaidd a gynigir unrhyw le yn y byd. Dilysir y cwrs gan Brifysgol Durham drwy'r bartneriaeth Dyfarniadau Cyffredin.( Common Awards) Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer clerigwyr, cyfreithwyr, gweinyddwyr eglwysi ac eraill sy’n dymuno datblygu eu gweinidogaeth neu ymarfer proffesiynol ym maes cyfraith ganonaidd, neu ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r ffordd y mae cymunedau’r eglwys yn cael eu rheoleiddio. Er mai prif ffocws yr addysgu yw’r gyfraith ganonaidd Anglicanaidd, darperir hyn ochr yn ochr ag elfen gymharol, ac anogir myfyrwyr sy’n dymuno ysgrifennu am gyfraith eglwysi yn eu traethodau a’u traethawd hir a asesir i wneud hynny.
Rydym yn rhan o Athrofa Padarn Sant, cangen hyfforddi’r Eglwys yng Nghymru. O dan y datganiad ‘ffurfiant mewn cymuned ar gyfer cenhadaeth’, mae Athrofa Padarn Sant yn rhoi’r gallu a’r grym i bobl Dduw ledled y byd i gyfathrebu cariad trawsffurfiol Duw. Mae Athrofa Padarn Sant fel safle wedi addysgu’r gyfraith ganonaidd am dros dri degawd, a bellach gall gynnig cyfraith ganonaidd fel arbenigedd mewnol. Rydym yn croesawu myfyrwyr o unrhyw ffydd neu gred, neu’r rhai nad os ganddynt ffydd neu gred.
Sut Gyflwynir y Cwrs
Sut gyflwynir y cwrs
Cyflwynir ein cyfnodau preswyl wyneb yn wyneb. Mae yna fanteision ffurfiannol pendant i ddysgu wyneb yn wyneb a chyfnodau preswyl. Rydym wedi gweld o brofiad, budd y sgyrsiau mae ein myfyrwyr yn ei gael gyda’i gilydd mewn darlithoedd ac yn ystod prydiau bwyd ac yn ystod gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dysgu sy’n digwydd yn ystod cyfnodau preswyl a thu allan i ddarlithoedd yn rhan hanfodol o ddysgu ym Mhadarn Sant.
Deilliannau Dysgu
Mae ein deilliannau dysgu ar gyfer bob modiwl yn dibynnu ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau (wedi selio ar drafodaeth), ymgysylltu â thiwtoriaid a thrafodaethau gyda myfyrwyr a darlithwyr. Mae’r rhyngweithiad hynny rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn chwarae rôl mewn helpu chi i archwilio pwnc, gan herio a datblygu eich meddwl a dyfnha eich dealltwriaeth. Dyma pryd mae ffurfiant yn digwydd, a dyma pam rydyn ni’n dysgu wyneb yn wyneb. Ein nod yw i grefftio profiad, yn hytrach na chyflwyno set o ddarlithoedd yn unig, er ein yn seilio hyn ar strwythur cadarn.
Dull cyflwyno
3 modiwl y flwyddyn am ddwy flynedd
Wedi ei ddilyn gan flwyddyn o fewnbwn ac ysgrifennu traethawd hir.
Cyflwynir mewn tri bloc dwys y flwyddyn (Dydd Llun i Ddydd Mercher) am dair blynedd ( 9 diwrnod ar ein safle yng Nghaerdydd bob blwyddyn).
Caiff cyfnodau preswyl eu cynnal ar ein safle yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd sydd yn cynnig llety en-suite, cyfleusterau arlwyo modern ac ystafelloedd dysgu pwrpasol ac ystafell gyffredin gyfforddus.
Blwyddyn 1 Tystysgrif Ôl-radd | Blwyddyn 2 - Diploma | Blwyddyn 3 - MA | |
---|---|---|---|
Cwrs Preswyl Hydref - 13-16 Hydref 2024 | Ymchwil a Myfyrio: Adnoddau a Dulliau | Traethawd Hir: Cytuno ar y teitl gyda’r arolygydd | |
Cwrs Preswyl Gaeaf - 2-5 Chwefror 2025 | Cyfraith y Defodau a'r Sacramentau | ||
Cwrs Preswyl Haf -27- 30 Ebrill 2025 | Cyfraith Gweinidogaeth |
Ffioedd ar gyfer 2024/25
Cymwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
PGCert | £3640 | N/A | N/A |
Diploma | £3640 | £3640 | N/A |
Meistr | £3640 | £3640 | £1040 |
Llety
Bydd costau llety yn ychwanegol i'ch ffioedd ac yn £180 i bob cyfnod preswyl , ac yn cynnwys llety a bwyd.
Gofynion Mynediad
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd mis Gorffennaf. Y maen prawf mynediad arferol yw gradd 2:1 yn diwinyddiaeth, neu bwnc cysylltiedig, neu radd 2:2 gyda phrofiad proffesiynol sylweddol. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Cysylltwch â ni i gael ffurflen gais.
Gallwch weld Pamffled fan hyn
Ceisiadau gan Fyfyrwyr o dramor
Nid oes gan Athrofa Padarn Sant drwydded Haen 4 sydd yn galluogi ni i noddi myfyrwyr o dramor i symud i’r DU i astudio. Serch hyn, gan fod dysgu wyneb yn wyneb ar y rhaglen MA yn cynnwys 3 cyfnod preswyl byr bob blwyddyn, os yw myfyrwyr o tu allan i’r DU yn medru mynychu’r cyfnodau preswyl ar fisa ymwelydd, byddan nhw yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen MA. Mae cael myfyrwyr o dramor yn golygu fwy o waith gweinyddu i Athrofa Padarn Sant ac am y rheswm hynny, mae yna gost o £500 y flwyddyn i bob myfyriwr heb ganiatâd i aros yn y DU.