MA Astudiaethau Caplaniaeth

Ym Mhadarn Sant gallwch astudio'r cyrsiau canlynol mewn Caplaniaeth, a ddilysir gan Brifysgol Durham.
- Tystysgrif Ôl-radd (PG Cert) 3 modiwl, drwy astudio mewn 1 Blwyddyn
- Diploma Ôl-radd (PG Dip) 6 modiwl mewn 2 flynedd
- MA (6 modiwl a thraethawd hir 15,000 o eiriau), 3 mlynedd
Mae Athrofa Padarn Sant wedi ei hachredu i gynorthwyo myfyrwyr sydd yn edrych i Gofrestru gyda Bwrdd Caplaniaeth Iechyd y D.U. yn ogystal â’r cymwysterau uchod.
Mae’r rhaglen, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phartneriaid proffesiynol, yn rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i chi ymarfer arweinyddiaeth o fewn eich maes arbenigedd o gaplaniaeth. Bydd astudio ym Mhadarn Sant yn ehangu'r elfennau damcaniaethol ac ymarferol o’ch gwaith. Byddwch yn cwblhau asesiadau wedi eu llunio i ehangu eich effeithlondeb broffesiynol.
Ym Mhadarn Sant, rydym yn cynnig dysgu wedi sy’n ffocysu are ich arbenigedd chi. Byddwch yn astudio mwyafrif y modiwlau gyda’ch cymheiriaid sy’n gweithio yn yr un maes. Bydd eich dysgu hefyd yn cael ei gyfoethogi wrth astudio ochr yn ochr â chaplaniaid sy'n gwasanaethu mewn meysydd amrywiol megis iechyd, milwrol, carchardai, addysg a chwaraeon. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cadw cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 1999 i hyfforddi caplaniaid milwrol a hefyd yn gweithio gydag amryw sefydliad gofal iechyd ar draws y D.U. Mae Athrofa Padarn Sant wedi ei achredu gan Fwrdd Caplaniaeth Gofal Iechyd y D.U. yn ddarparwr hyfforddi wedi ei gymeradwyo, i fyfyrwyr sy’n edrych i gael cofrestriad proffesiynol.

O gofio’n 23 mlynedd o brofiad o baratoi caplaniaid o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mae digon o resymau da dros ymuno â ni yn Athrofa Padarn Sant.
Mae rhaglen Astudiaethau Caplaniaeth Padarn Sant yn canolbwyntio ar ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus i gaplaniaid, ond gall fod yn addas i eraill hefyd.
Gwybodaeth i Ddysgwyr
Modiwlau
Mae'r Ffioedd ar gyfer 2025/56 a ganlyn:
Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|---|
PGCert | £3700 | Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
PGDip | £3700 | £3700 |
Ddim yn berthnasol |
MA | £3700 | £3700 | £1058 |
Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/
Sut i wneud cais
Y meini prawf mynediad arferol yw gradd 2:1 gyda dwy flynedd o brofiad o gaplaniaeth neu radd 2:2 gyda phrofiad proffesiynol sylweddol. Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael ichi.
Diwedd mis Gorffennaf yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Gellir gweld fwy o wybodaeth ynghylch Astudiaethau Ôl-radd ym Mhadarn Sant fan hyn
Gellir gweld fwy o wybodaeth am ein polisïau fan hyn
Gellir gweld ein pamffled fan hyn
Clywch gan ein myfyrwyr
