Tystysgrif Ôl-radd mewn Astudiaethau Caplaniaeth gyda Chofrestriad UKBHC
Mae Athrofa Padarn Sant wedi ei hachredu i gynorthwyo myfyrwyr sydd yn edrych i Gofrestru gyda Bwrdd Caplaniaeth Iechyd y D.U. yn ogystal â’r cymwysterau isod:
- Tystysgrif Ôl-radd (PG Cert) 3 modiwl, drwy astudio mewn 1 Blwyddyn *
- Diploma Ôl-radd (PG Dip) 6 modiwl mewn 2 flynedd
- MA (6 modiwl a thraethawd hir 15,000 o eiriau), 3 mlynedd
* Bydd angen i myfyrwyr sy'n dymuno parhau i astudio'r diploma neu'r MA astudio 'Ymchwil a Myfyrio: Adnoddau a Dulliau' fel ei modiwl cyntaf yn yr ail flwyddyn*.
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau iechyd ar darws y D.U. ac yn falch iawn ein bod wedi ennill cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 1999.
Rydym hefyd yn cynnig llwybr penodol ar gyfer yfyrwyr sy'n dymuno astudio PGCert gyda Chofrestriad UKBHC. Bydd myfyrwyr sy'n gwneud cynnnydd boddhaol â'r opsiwn i drosgwlyddo i astudio y PG Dip neu'r MA.
Mae'r tystysgrif ôl-radd mewn Astudaiethau Caplaniaeth gyda chofrestriad UKBHC yn canolbwyntio ar baratoi caplaniaid newydd eu apwyntio i weithio fel ymarfer diogel ac efefithiol, boed yn gweithio i'r Wasanaeth Iechyd, neu i ddarparwyr preifat neu elusennol.
Bydd ein rhaglen yn rhoi'r gwybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi fod yn hyddysg mewn caplaniaeth gofal iechyd. Bydd astudio ym Mhadarn Sant yn ehangu eich meddwl a'ch ymwybyddiaeth o elfennau damcaniaethol ac ymarferol eich gwaith.
O gofio’n 23 mlynedd o brofiad o baratoi caplaniaid o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mae digon o resymau da dros ymuno â ni yn Athrofa Padarn Sant.
Dominic Whitting - Caplan Iechyd
Caroline John - Caplan Gofal Iechyd
Sarah Burke - Caplan Gofal Iechyd Addysg
Lucyann Ashdown - Caplan Gofal Iechyd
Ffioedd
I fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2023 ffioedd y cwrs fydd £3640:
Ein ffi ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer cofrestriad UKBHC yw £350.
Bydd costau llety yn cael eu codi ar wahân i hyn ac yn £180 ar gyfer pob cyfnod preswyl.
Gofynion a Phroses Ymgeisio
Y criteria arferol ar gyfer ymgeisio ydy gradd 2:1 gyda o leiaf 2 flynedd o brofiad o gaplaniaeth neu radd 2:2 ac â phrofiad broffesiynol sylweddol. Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion cysylltwch â ni i drafod beth yw eich opsiynau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd Gorffennaf.
Gwybodaeth pellach
Gallwch lawr lwytho pamffled Astudiaethau Caplaniaeth Ôl-radd gyda Chofrestriad UKBHC
Gweler mwy o wybodaeth am Astudiaethau Ôl-radd fan hyn
Gweler fwy o wybodaeth am bolisiau Athrofa Padarn Sant yma