Arbenigwyr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Trosolwg o'r Cwrs
Caiff y Radd Meistr hon ei ddilysu gan Brifysgol Durham fel MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth Mae’r cwrs hwn yn arbenigedd o fewn hwn ac mi fydd pob modiwl wedi ei gynllunio yn arbennig i weithwyr plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Sut Gyflwynir y Cwrs
Cyflwynir ein cyfnodau preswyl wyneb yn wyneb. Mae yna fanteision ffurfiannol pendant i ddysgu wyneb yn wyneb a chyfnodau preswyl. Rydym wedi gweld o brofiad, budd y sgyrsiau mae ein myfyrwyr yn ei gael gyda’i gilydd mewn darlithoedd ac yn ystod prydiau bwyd ac yn ystod gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dysgu sy’n digwydd yn ystod cyfnodau preswyl a thu allan i ddarlithoedd yn rhan hanfodol o ddysgu ym Mhadarn Sant.
Deilliannau Dysgu
Mae ein deilliannau dysgu ar gyfer bob modiwl yn dibynnu ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau (wedi selio ar drafodaeth), ymgysylltu â thiwtoriaid a thrafodaethau gyda myfyrwyr a darlithwyr. Mae’r rhyngweithiad hynny rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn chwarae rôl mewn helpu chi i archwilio pwnc, gan herio a datblygu eich meddwl a dyfnha eich dealltwriaeth. Dyma pryd mae ffurfiant yn digwydd, a dyma pam rydyn ni’n dysgu wyneb yn wyneb
Ein nod yw i grefftio profiad, yn hytrach na chyflwyno set o ddarlithoedd yn unig, er ein yn seilio hyn ar strwythur cadarn. Lluniwyd y rhaglen yn benodol i gwrdd ag anghenion rheiny sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Dull cyflwyno
3 modiwl y flwyddyn am ddwy flynedd
Wedi ei ddilyn gan flwyddyn o fewnbwn ac ysgrifennu traethawd hir.Cyflwynir mewn tri bloc dwys y flwyddyn (Dydd Llun i Ddydd Mercher) am dair blynedd ( 9 diwrnod ar ein safle yng Nghaerdydd bob blwyddyn).
Caiff cyfnodau preswyl eu cynnal ar ein safle yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd sydd yn cynnig llety en-suite, cyfleusterau arlwyo modern ac ystafelloedd dysgu pwrpasol ac ystafell gyffredin gyfforddus.
Dyddiadau Cyfnodau Preswyl | |
---|---|
2024-25 | 2025-26 |
15-18 Medi 2024 | 14-17 Medi 2025 |
12-15 Ionawr 2025 | 11-14 Ionawr 2026 |
23-26 Mawrth 2025 | 26-29 Ebrill 2026 |
16-17 Mehefin 2025 (Alumni) |
Modiwlau y byddwch yn eu hastudio
Blwyddyn 1 - Tystysgrif Ôl-radd | Blwyddyn 2 - Diploma Ôl-radd | Blwyddyn 3 - Gradd Meistr |
---|---|---|
Ymchwil a Myfyrio: Adnoddau a Dulliau | Prosiect Dysgu Annibynnol | Traethawd hir mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth |
Diwinyddiaeth ac Ysbrydoldeb y Plentyn | Gweinidogaeth a Chenhadaeth gyda Plant, Teuluoedd a Phobl Ifanc | |
Datblygiad gwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn yr Eglwys a'i lle o fen cymdeithas gyfoes | Ymarfer Myfyriol: Arweinyddiaeth a Chydweithredu |
Blwyddyn 1
Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrio Diwinyddol
Bydd y modiwl allweddol hwn yn eich dysgu sut i chwilio gwybodaeth, sut i ddadansoddi beth sy’n digwydd. Mae’r radd Meistr mewn gwirionedd yn drwydded i wneud gwaith ymchwil. Dyma fodiwl bydd pob myfyriwr yn ei astudio waeth beth yw ei arbenigedd. Bydd yn teimlo ychydig yn wahanol gan nad yw’n canolbwyntio yn benodol ar blant, pobl ifanc a theuluoedd, ond bydd y gwerth i’w weld yn y dyfodol.
Diwinyddiaeth a Ysbrydoldeb y Plentyn
Modiwl Craidd i bob ymarferwr agyflwynir gan Mark Griffiths and Yvonne Morris. Mae’n cyflwyno myfyrdodau diddorol- yn enwedig o amgylch pwnc troëdigaeth
Datblygiad gwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn yr Eglwys a'i lle o fewn cymdeithas gyfoes
Taith drwy 250 o flynyddoedd i weld sut rydym wedi cyrraedd lle ydyn ni. Bydd Rachel Turner yn archwilio lle gallwn /lle ddylwn fod yn canolbwyntio heddiw.
Blwyddyn 2
Cenhadaeth Gyfoes i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Bydd Gary Smith o’r Message Trust yn ein helpu gyda hyn a bydd Lucy Moore of Messy Church yn cynnig mewnbwn sylweddol hefyd. Mae sylwad Lucy “If Messy Church was created as a Fringe Activity and we’ve made it mainstream, what do we now have to do to reach the fringes again?” yn ei esbonio yn berffaith. Modiwl diddorol dros ben.
Arweinyddiaeth mewn Cyd-destun Beiblaidd a chyfoes
Mae’r modiwl hyn yn trafod arweinyddiaeth, mae’n trafod arweinyddiaeth yn gyffredinol, nodweddion arweinwyr, ac yn trafod strategaeth, diwylliant ac ysgogi eraill. Bydd yn canolbwyntio ar gyd-destun plant, pobl ifanc a theuloedd. Bydd Matt Summerfield (gynt o Urban Saints a nawr Zeo Church) yn ein helpu i darfod y maes hwn.
Modiwl Dysgu’n Annibynnol
Amrywiaeth o ddarlithoedd gan arbenigwyr tu allan I plant, bobl ifanc a theuluoedd, felly athronaieth, astudiaethau beiblaidd, a diwinyddiaeth ymarefrol er mwyn ein ymestyn yn ehanagach. Yna byddwch yn cytuno ar deitl gydag un u’r darlithwyr yn eu pwnc arbenigol ( gyda chysylltiad neu a dim cysylltiad uniongyrchol â phlant, bobl ifanc a theuluoedd) a bydd darlithydd yn eich goruchwylio chi drwy’r broses o ysgrifennu Ymchwil Annibynnol 6,000 o eiriau.
Blwyddyn 3
Traethawd hir
15,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis chi.
Y Tîm Addysgu
Mae’r tiwtoriaid yn cynnwys: Lisa Lyall (Glo! Kids), Lucy Moore (Llan Llanast), Yvonne Morris (Esgobaeth Rhydychen ), Rick Otto (New Wine), Gary Smith (Message Trust), Matt Summerfield (Zeo Church / Urban Saints yn flaenorol), Rachel Turner (Parenting for Faith), George Lings (Cyn bennaeth Ymchwil i Church Army) Parch Ddr Sally Nash, a Mark Griffiths (Athrofa Padarn ) ac eraill.
Y Broses Ymgeisio
Mae’r radd hon yn radd mfyrio ar ymarfer, ac er mai y criteria arferol ydy gradd 2:1, rydym hefyd yn ystyried profiad gweinidogaethol yn y maes hwn dros raddau balenorol, felly os nad oes gradd gennych, cysylltwch a ni i darfod ymhellach.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ydy diwedd Gorffennaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.
Gallwch hefyd lawrlywtho pamffled yma
Gellir gweld fwy o wybodaeth am Astudiaethau Ôl-radd fan hyn
Ffioedd
Mae ffioedd y cwrs yn cael eu rhannu ar draws y 3 mlynedd. I fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2024/2025 y canlynol fydd y ffioedd:
Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|---|
PGCert | £3120 | Ddim yn berthnasol | Ddim yn berthnasol |
PGDip | £3120 | £120 | Ddim yn berthnasol |
MA | £3120 | £3120 | £1040 |
Llety
Mae llety en-suite are gael ar y safle am gost o £180 bob cyfnod preswyl, sy’n cynnwys pob pryd bwyd.
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/