MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Hoffech chi.....
- ddatblygu eich gwybodaeth am y Beibl ac ehangu gorwelion eich dealltwriaeth diwinyddol?
- eisiau mireinio eich sgiliau gweinidogaeth, cenhadu ac arwain ac archwilio sut mae eich ffydd yn ymwneud a realiti y byd heddiw?
Yna, mae'n bosib mai'r MA mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth yw’r cwrs i chi.
Gwybodaeth am y Rhaglen
Dilysir ein MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth gan Brifysgol Durham, un o’r prif prifysgolion ar gyfer astudio diwinyddiaeth yn y byd.
Mae gweledigaeth Athrofa Padarn Sant ar gyfer addysg diwinyddol yn cyfuno rhagoriaeth gyda ymrwymiad i ffurfiant a chenhadaeth, ac mae’r MA yn adlewyrchu hynny. Bydd yr MA yn rhoi sail da i chi mewn Astudiaethau Beiblaidd, Dysgeidiaeth Gristnogol, cenadaetheg a diwinyddiaeth ymarferol ac mi fydd yn archwilio pynciau sydd o bwys i chi.
O fewn eich pynciau dewisol, bydd y rhyddid gennych i ganolbwyntio ar faes penodol o ddiddordeb i chi neu gwreiddio eich astudiaethau ar eich sefyllfa neu ardal penodol chi.
Mae’r MA wedi ei anelu at y rheiny sy’n lleygwyr neu wedi eu hordeinio i weinidogaeth Gristnogol. Mae’r cwrs yn hefyd yn addas ar gyfer bobl sy’n gweithio ar gyfer sefydliadau para-eglwysi, lle mai’r maes cenhadu yn weithle ‘seciwlar’, neu yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gwasanaethu eu heglwys mewn modd mwy anffurfiol.
Gall hefyd fod o ddiddordeb i raddedigion astudiaethau crefydd sydd eisiau datblygu ar ei hastudiaethau blaenorol.
Clywch gan ein Tiwtoriaid
Sut gyflwynir y rhaglen
Cyflwynir ein cyfnodau preswyl wyneb yn wyneb. Mae yna fanteision ffurfiannol pendant i ddysgu wyneb yn wyneb a chyfnodau preswyl. Rydym wedi gweld o brofiad, budd y sgyrsiau mae ein myfyrwyr yn ei gael gyda’i gilydd mewn darlithoedd ac yn ystod prydiau bwyd ac yn ystod gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dysgu sy’n digwydd yn ystod cyfnodau preswyl a thu allan i ddarlithoedd yn rhan hanfodol o ddysgu ym Mhadarn Sant
Deilliannau Dysgu
Mae ein deilliannau dysgu ar gyfer bob modiwl yn dibynnu ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau (wedi selio ar drafodaeth), ymgysylltu â thiwtoriaid a thrafodaethau gyda myfyrwyr a darlithwyr. Mae’r rhyngweithiad hynny rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn chwarae rôl mewn helpu chi i archwilio pwnc, gan herio a datblygu eich meddwl a dyfnha eich dealltwriaeth. Dyma pryd mae ffurfiant yn digwydd, a dyma pam rydyn ni’n dysgu wyneb yn wyneb. Ein nod yw i grefftio profiad, yn hytrach na chyflwyno set o ddarlithoedd yn unig, er ein yn seilio hyn ar strwythur cadarn.
Dull cyflwyno
3 modiwl y flwyddyn am ddwy flynedd
Wedi ei ddilyn gan flwyddyn o fewnbwn ac ysgrifennu traethawd hir.
Cyflwynir mewn tri bloc dwys y flwyddyn (Dydd Llun i Ddydd Mercher) am dair blynedd ( 9 diwrnod ar ein safle yng Nghaerdydd bob blwyddyn).
Caiff cyfnodau preswyl eu cynnal ar ein safle yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd sydd yn cynnig llety en-suite, cyfleusterau arlwyo modern ac ystafelloedd dysgu pwrpasol ac ystafell gyffredin gyfforddus. Residentials are all held at St Padarn’s Cardiff site which boasts en-suite accommodation, modern catering facilities, well equipped teaching rooms and a comfortable student common room.
Dyddiadau Cyfnodau Preswyl | |
---|---|
2024-25 | 2025-26 |
22-25 Medi. 2024 | 21- 24 Medi 2025 |
27-29 Ionawr 2025 | 18- 21 Ion 2026 |
7 -9 Ebrill 2025 | 12 -15 Ebrill 2026 |
Cwrdd â'n Myfyrwyr
Cymwysterau sydd ei hangen er mwyn astudio
Bydd gan ymgeiswyr radd Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefydd fel arfer.
Mae yna lwybrau eraill posib er mwyn caniatáu pobl heb addysg ddiwinyddol ffurfiol i ymgeisio, megis rheiny sydd â profiad sylweddol o weinidogaeth. Os mai hynny yw eich sefyllfa chi, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Y Modiwlau fydd yn cael eu hastudio
Er mwyn cwblhau’r rhaglen Meistr bydd angen cyfanswm o 180 credyd. Mae hyn yn cynnwys chwec modiwl wedi ei ddysgu (120 credyd) ac wedi cwblhau hynny yn llwyddiannus bydwch yn mynd ymlaen i ysgrifennu traethawd hir (60 credyd). Bydd myfyrwyr fel arfer yn astudio tri modiwl y flwyddyn.
Y Modiwlau fyddwch yn eu hastudio
Ffioedd
Mae ffioedd y cwrs yn cael eu rhannu ar draws y 3 mlynedd. I fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2024/25y canlynol fydd y ffioedd:
Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|---|
PGCert | £3120 | Ddim yn berthnasol | Ddim yn berthnasol |
PGDip | £3120 | £3120 | Ddim yn berthnasol |
MA | £3120 | £3120 | £1040 |
Llety
Mae'r gost ar gyfer llety yn cael eu godi ar wahân am £180 bob cyfnod preswyl, lluniaeth llawn.
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/
Y Broses Ymgeisio
Rydym yn croesawu ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, ond i ddechrau eich hastudiaethau ym mis Medi bydd angen cyflwyno eich cais cyn 31 Gorffennaf.
Gellir gweld pamffled MA Diwinyddiaeth fan hyn
Gellir gweld fwy o wybodaeth ar Astudiaethau Ôl-radd ym Mhadarn Sant fan hyn