Hoffech chi ddysgu mwy am Duw, y Beibl a Diwinyddiaeth?
Hoffech chi ddysgu mwy am eich ffydd mewn grŵp cefnogol?
Os hynny, mae’n bosib mai Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yw’r cwrs i chi. Mae Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yn radd, diploma neu dystysgrif sy’n helpu chi i gysylltu eich ffydd gyda bywyd bob dydd. Mae’n gwrs Prifysgol mewn Diwinyddiaeth, wedi ei hachredu a gyflwynir gan Athrofa Padarn Sant a wedi ei ddilysu gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.
Byddwch yn trafod y cwestiynau isod:
Pam fo Duw yn caniatáu dioddef?
Beth mae’r gerddoriaeth rydyn ni’n gwrando iddo a’r ffilmau ni’n gwylio yn dweud wrthyn ni am Dduw?
Beth yw hanes ac ystyr ein gwasanaethau addoli?
Beth yw ystyr geiriau fel iachawdwriaeth, pechod a cymodi a sut ydyn nhw’n berthnasol i fy ffydd?
Sut allaf gwneud penderfyniadau moesegol a sut ddylwn feddwl am faterion moesegol fel marwolaeth â chymorth, rhywioldeb, hawliau dynol a’r economi?
Sut ddylwn i ddarllen a deall y Beibl ar gyfer heddiw a fy mywyd i?
Sut alla i helpu fy eglwys i fod yn fwy effeithiol wrth genhadu?
Pa gymwysterau gallaf ennill?
Byddwch yn astudio tri modiwl ar bob lefel / mae cymwyster yn cynnwys chwech modiwl
Astudiwch yn rhan amser am 2 flynedd – gallwch ennill Tystysgrif mewn Diwinyddiaeth
Astudiwch yn rhan amser am 4 blynedd gallwch ennill diploma
Astudiwch am 6 blynedd yn rhan-amser a gallwch ennill gradd BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth.
Sut gyflwynir y cwrs?
Bydd pob modiwl yn dechrau gyda sesiwn rhagarweiniol ar-lein a gynhelir gan un o’n darlithwyr ( bydd arweinydd y modiwl yn arbenigydd yn eu pwnc)
Yn dilyn hynny byddwch chi’n cwrdd mewn grŵp ar-lein am 8 sesiwn wedi eu harwain gan hwylusydd i drafod y deunydd dysgu mae’r darlithydd wedi paratoi ar eich cyfer. Byddwch yn cael mynediad i’r deunydd ar-lein.
Yn ystod y tymor byddwch hefyd yn cwrdd ar-lein ar gyfer seminar canol tymor.
Ar ddiwedd y modiwl byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gall cynnwys adroddiad, myfyrdod, neu aseiniad. Am y ddwy flynedd olaf (lefel 6 – i ennill BTh) bydd y cwrs yn cael ei chynnal ar noson yn ystod yr wythnos ar Zoom. Bydd eich hwylusydd, arweinydd modiwl a staff yr Athrofa ar gael i’ch helpu.
Cwestiynau Cyffredin
Mae Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yn agored i unrhyw un sydd eisiau dyfnhau eu ffydd a dysgu mwy am ddiwinyddiaeth.
Rhaid i chi hefyd fod yn rhywun sy’n mwynhau trafod syniaday ag eraill ac yn fodlon gael eich herio gan eich darllen a meddwl.
Cwestiynau ddylech holi eich hun fyddai:Questions to ask yourself would be:
Oes gen i’r amser?
Ydw i’n fodlon trafod fy nghredoau yn ddwfn a gofyn cwestiynau anodd?
Ydw i’n fodlon gwrando ar eraill a gwrando ar eu safbwyntiau?
Ydw i’n gyffyrddus yn defnyddio cyfrifiadure, defnyddio’r wê darllen e-lyfrau a chyflwyno gwaith ar-lein?
Cyflwynir y cwrs yn Saesneg ond gallwch gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg. Gallwch gyfathrebu gyda ni yn Gymraeg neu Saesneg a chael trafodaethau gyda’ch tiwtor personol yn Gymraeg. Yn aml rydym yn cynnal grwpiau dysgu wedi hwyluso yn Gymraeg yn ogystal â grwpiau Saesneg. Bydd rhai o’r deunyddiau darllen yn Gymraeg hefyd. Gofynnwch am fwy o wybodaeth.
Dim ond y rhai hynny sydd wedi eu derbyn yn ffurfiol ar gyfer hyfforddiant i’r weinidogaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru ac wedi eu noddi gan eu hesgob sydd yn medru dilyn y cwrs llawn-amser.
Ydych. Os ydych yn rhan o’r broses ffurfiol gyda’r Eglwys yng Nghymru neu ar fin dechrau’r broses, siaradwch â’ch Cyfarwyddwyr Galwedigaethau. Cofiwch serch hyn, mai dim ond un rhan o hyfforddiant i’r weinidogaeth yw hon. Unwaith i chi gael eich noddi bydd yna fwy o hyfforddiant i’w wneud ac nid dysgu diwinyddol yn unig. Edrychwch ar wybodaeth rhaglen Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth ar y wefan am fwy o wybodaeth. Fel arfer os ydych wedi bod yn astudio Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd am ychydig byddwn ni’n medru eich helpu i gyrraedd y lefel nesaf o’r cymhwyster pan fyddwch yn dechrau eich hyfforddiant i’r weinidogaeth. Siaradwch gyda ni i gael cyngor os ydych yn y broses dirnadaeth. Mae’n ddefnyddiol i rheiny sy’n gobeithio hyfforddi yn rhan- amser i’r weinidogaeth fod wedi cwblhau blwyddyn o Ddiwinyddiaeth ar gyfer Bywyd, ac mae o fudd os yw'r rheiny sy’n gobeithio hyfforddi’n llawn amser eu bod wedi cwblhau lefel ( ac nid hanner ffordd drwy lefel) cyn dechrau eu hyfforddiant. Cysylltwch â ni am gyngor gan yr allai amrywio yn ddibynnol ar y sefyllfa.
Grêt! Siaradwch a’ch gweinidog ac fe allan nhw gefnogi chi wrth i chi ystyried cymryd trafodaethau i’r cam nesaf o fewn yr esgobaeth
Mae nifer o bobl yn teimlo fel hyn wrth ddechrau’r cwrs. Cadwch lygad allan am y cymorth sgiliau astudio rydym ni’n ei gynnig. Gallwch hefyd ofyn am gymorth tiwtora ychwanegol - mae gennym diwtor, sydd â’r rôl o helpu gyda sgiliau astudio a chymorth dysgu. Rydym ni yma i helpu!
Er bod gennym ofynion ffurfiol ( os ydych o dan 21 bydd angen fod gennych o leiaf 64 pwynt tariff UCAS) gan fod rhan fwyaf o fyfyrwyr dros 21 gallwn gymryd mewn i ystyriaeth eich profiad ac ymrwymiad i’r cwrs. Mewn rhai achosion byddwn yn gofyn i chi gwblhau datganiad ysgrifenedig byr.
Gallwch weld ein polisi derbyn drwy glicio ar y botwm polisïau ar waelod y dudalen.
Byddwch yn cwrdd bob wythnos am dwy awr mewn grŵp dysgu wedi ei hwyluso ( am 8 sesiwn y tymor)
Mae yna hefyd 2 sesiwn 2 awr gyda phawb sy’n astudio’r modiwl ( sesiwn rhagarweiniol a sesiwn canol-tymor) ar-lein bob tymor.
Bydd disgwyl i chi baratoi ar gyfer bob cyfarfod grŵp dysgu a bydd angen i chi neilltuo amser i ysgrifennu aseiniadau. Bydd pob modiwl yn cymryd tua 200 awr o ddysgu a hunan astudio i gyflawni.
Gallwn eich helpu chi i gael diagnosis a mynediad i gymorth. Rhowch wybod i ni yn gynnar yn y broses fel ein bod yn medru gweithio gyda chi i gael mynediad at y cymorth sydd ei hangen arnoch. Gall cymorth gynnwys ymgeisio am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl er mwyn eich galluogi chi i brynu offer neu gael mynediad at gymorth ychwanegol.
Rhowch wybod i ni yn gynnar yn y broses, mae’n bosib y byddwn yn medru gweithio gyda chi er mwyn cael eich dysgu blaenorol wedi ei gydnabod gan y Brifysgol.
Dewch i’n cwrs blasu. Meddyliwch yn ofalus os ydych yn medru rhoi o’ch amser ia astudio a chliriwch amser yn eich dyddiadur flwyddyn nesaf.
Siaradwch a’ch offeiriad. Mae’n bosib bod eich eglwys yn cynnal grwpiau gallwch ymuno a hwy. Mae nifer o eglwysi yn cynnal grwpiau astudio’r Beibl neu’n cynnal cyrsiau megis Alpha i helpu pobl i ddysgu mwy am y ffydd Gristnogol. Mae gennym ni hefyd gyrsiau eraill ar ein gwefan. Efallai fyddai diddordeb gennych yn ein cyfres o Lyfrau Gweinidogaeth Gomisiyniedig a Byw fel yr Iesu.
FFioedd
Lefel
Dysgwyr yr Eglwys yng Nghymru (Yn flynyddol)
Dysgwyr tu allan i'r Eglwys yng Nghymru (Yn flynyddol)
4
£153.00
£381.00
5
£381.00
£1144.00
6
£381.00
£1144.00
Fe anfonebir ffioedd y cwrs gan y Corff Cynrychiolwyr ac fe ellir creu cynllun talu i er mwyn gwasgaru'r gost. Os ydy talu yn broblem, rhowch gwybod i'ch tiwtor ac mae'n bosib allwn ni eich helpu.
Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
I weld cytundeb ymrestru myfyriwr Prifysgol y Drindod Dewi Sant cliciwch yma
Mae astudiaethau diwinyddol wedi ei hachredu yn ofyniad ar gyfer rhan fwyaf o weinidogaethau trwyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Dyma rhai gyrfaoedd eraill gallai fod yn agored i chi gyda gradd diwinyddiaeth:
Caplan
Darlithydd Addysg Uwch
Athro / Athrawes Ysgol Gynradd
Athro / Athrawes Ysgol Uwchradd
Mae'n bosib y bydd angen cymwysterau pellach ar gyfer rhai o'r uchod.
Mae'n bosib y gall graddedigion Diwinyddiaeth fynd ymlaen i wneud amrywiaeth o yrfaoedd megis yr heddlu, gwaith gweinyddol yn y sector gyhoeddus neu preifat, adnoddau dynol, manwerthu neu rheolaeth gwestai.
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau lefel 4 yn ennill Tystystgrif mewn Diwnyddiaeth a Disgyblaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau lefel 5 yn ennill Diploma a chwblhau lefel 6 yn ennill gradd BTh.
Trafodwch gyda ni mor gynnar yn y broses a phosib os ydych wedi astudio Diwinyddiaeth yn academaidd yn flaenorol, gan ei fod yn bosib y fedrwch ddechrau'r cwrs ar lefel Diploma.
Ffioedd y cwrs ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2020/2021 yw £120 y flwyddyn. Ceir anfoneb gan y Corff Cynrychiolwyr am gostau'r cwrs. Gellir gwneud trefniadau am gynllun talu i wasgaru'r gost.
Cyfnod Ymsefydlu ar y Cwrs
Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnig y cyfle i ddarpar myfyrwyr i gymryd rhan mewn cwrs sefydlu i gyfwyno themâu allweddol, syniadau a ffyrdd o ddysgu mewn amgylchedd anffurfiol a chefnogol.
Am fwy o wybodaeth ac i ddangos diddordeb yn y cwrs cysylltwch: