Rhwydweithiau
Mae Athrofa Padarn Sant yn rhan o’r broses o feithrin disgyblion drwy addysgu am gynghorion y Beibl a drwy arwain eraill i fyw fel dilynwyr Iesu. Mae hwn yn broses dydd i ddydd o fod yn ddisgybl a meithrin disgyblion o eraill. Gwasanaethu fel disgyblion sydd wrth wraidd ein holl weithgareddau, ond gwelir isod ddau faes penodol ble rydym yn gwireddu‘r gwaith yr rydym wedi ei gomisiynu i’w gwneud, sef meithrin disgyblion a rhoi’r sgiliau a’r adnoddau iddynt fedru mewn tro feithrin disgyblion o eraill.
Mae yna ddwy weinidogaeth ‘arbenigol’ rydym ni’n credu fod angen i’r Eglwys yng Nghymru eu datblygu a’u meithrin, y rhain yw Gweithwyr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd (yn aml fe’i hadnabyddir fel Bugeiliaid, Gweinidogion neu Gaplaniaid) ac Arloeswyr ( sydd mewn rhai achosion yn medru cael eu hordeinio) Rydym yn cynnig hyfforddiant arbenigol i’r gweinidogaethau rhain i’w galluogi i ymgysylltu â chyfleoedd cenhadol ar draws Cymru. Gellir gweld fwy o wybodaeth drwy glicio’r linciau isod.