Eglwys Edmwnd Sant, Gryg-yr-hywel - Ymgysylltu a phobl ifanc
Ymgysylltu â'r gymuned leol
Gyda chyfyngiadau nawr yn cael eu llacio, pa gyfleoedd sydd gan eich eglwys chi i gysylltu â’r gymuned leol?
Mae Eglwys Edwnd Sant, Grug yr Hywel wedi bod yn gweitho gyda bobl ifanc o’i cymuned ers tipyn o amser, a phan wnaeth y pandemic fwrw, fel nifer, roedd rhaid iddyn nhw ddysgu yn gyflym sut i symud I zoom er mwyn cynnal ei grŵp yn rhithiol. Yn ystod y cyfnod hwn, fe glywodd un o’r arweinwyr am lansiad strategaeth newydd y Scripture Union ‘Datguddio Iesu’ oedd yn helpu eglwysi i ystyried sut roeddent yn medru teithio ochry n ochr â phlant a phobl ifanc wrth iddyn nhw archwilio’I ffydd. Fe helpodd hyn iddyn nhw gynllunio eu gwaith ac ystried sut I ail ddechrau ei gwaith gyda bobl ifanc wyneb wrth wyneb.
Fe lwyddon nhw i gael cynllun lleol i brynu cysgodfannau pop-up ac maen nhw’n creu ffilm fer gyda’i bobl ifanc yn trafod lles, a sut y bydd cwrdd yn dilyn COVID y neu helpu nhw gyda’i lles.
Ychydig wythnosau yn ôl, fe gefais y cyfle i ymweld â’r grŵp yn ei ail cyfarfod wyneb yn wyneb. Maen nhw wedi cael caniatâd i gynnal eu grŵp ac i roi’r cysgodfannau i fyny are eu cae chwarae / parc lleol. Roeddynt yn drefnus dros ben pan oedd yn dod i drefnu gweithgareddau a bod yn barod o ran diogelwch COVID ar gyfer ei hunain a’r bobl ifanc ddaeth i’r grŵp.
Roedd yn hyfryd gweld y bobl ifanc yn gwenu wrth iddyn nhw gyrraedd a’r ffordd fe wnaethant ymgysylltu â’r arweinwyr. Roedd yn ddigwyddiad weddol o syml, gêm o rownderi lle'r oedd yr arweinwyr a’r bobl ifanc yn cymryd rhan. Ar ddiwedd y sesiwn cyfle i eistedd mewn cylch gyda chardiau trafod fel modd i ail gysylltu gyda’r bobl ifanc.
Fe ymgysylltodd y bobl ifanc yn dda, ac roedd yn werth yr ymdrech i’r arweinwyr o ran y gwaith trefnu lle diogel i’r bobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael treulio amser gyda’i gilydd.
Ydy hyn yn rhywbeth y gallai eich eglwys chi wneud yn y gymuned leol, nail ai gyda phlant neu bobl ifanc neu gyda phobl bob oed yn eich eglwys? (mae cyfyngiadau COVID dal mewn lle) Os ydych eisiau trafod unrhyw bosibiliadau ymhellach cysylltwch â ni.