Cwrs Galluogi a Datblygu Gweinidogaeth Pobl Hŷn
Mae Athrofa Padarn Sant yn falch iawn o gyflwyno cwrs preswyl 4 diwrnod ychwanegol sydd â’r nod o ddatblygu a galluogi gweinidogaeth i bobl hŷn.
Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn cynnwys, trafodaethau grŵp, gweithdai, a chyfle i hunan fyfyrio, ynghyd â chyflwyniadau a chyfleoedd i rannu deunyddiau ac adnoddau ar gyfer gweinidogaeth.
Lle a pryd fydd y cwrs yn cael ei gynnal?
Bydd yn cael ei gynnal ar ffurf cwrs preswyl yn Athrofa Padarn Sant, Caerdydd dros 4 diwrnod ar 6-9 Mehefin 2025
Beth fydd y meysydd astudio?
- Gweinidogaeth Pobl Hŷn mewn cyd-destun Cymreig
- Natur heneiddio ac ysbrydolrwydd
- Ysbrydolrwydd a’r rheiny sy’n byw gyda dementia
- Y sgiliau sydd angenrheidiol ar gyfer caplaniaeth pobl hŷn
- Model gweinidogaeth Caplaniaeth Anna
Oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau arna i er mwyn cofrestru ar y cwrs?
Nac oes, y gofynion allweddol yw'r brwdfrydedd dros weinidogaethu i bobl hŷn mewn cyd-destun eglwys ac yn y gymuned. Mae’n bosib fod gennych weinidogaeth benodol, neu yn chwilio i ddatblygu un.
Noder os ydych eisoes wedi cwblhau hyfforddiant Caplaniaeth Anna, nid oes angen i chi gwblhau’r cwrs yma gan ei fod yn trafod cynnwys tebyg.
Pwy all gofrestru?
Gall unrhyw glerigwyr neu weinidogion lleyg trwyddedig sy’n gwasanaethu i’r Eglwys yng Nghymru gofrestru. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, ond os ydy lle yn caniatáu, mae’n bosib y byddwn yn hapus i dderbyn cais gan eraill megis arweinwyr tîm bugeiliol, neu unigolion lleyg eraill sy’n gweinidogaethu yn y maes pwysig hwn y neu eglwysi / cymunedau lleol.
Sut i gofrestru?
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd, ond cysylltwch â ni er mwyn i ni ychwanegu chi i'r rhestr aros ar gyfer derbyn gwybodaeth.
Bydd yna gost ar gyfer gwneud y cwrs?
Nac oes, bydd Athrofa Padarn Sant yn talu’r gost ar gyfer llety ac am gynnal y cwrs. Bydd pob cyfranogwr hefyd yn derbyn llawlyfr Caplaniaeth Anna am ddim ar ddechrau’r cwrs.
Noder na fydd Athrofa Padarn Sant yn medru ad-dalu costau teithio sydd ynghlwm â’r cwrs. Dylai'r rhain cael ei ad-dalu drwy Ardal Weinidogaeth neu Esgobaeth y cyfranogwr.
Pwy ddylwn i gysylltu ag os oes gennyf unrhyw ymholiadau neu bryderon?
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Sally Rees Arweinydd y Cwrs, Arweinydd Caplaniaeth Anna ar gyfer Cymru, a Swyddog yr Esgob ar gyfer Gweinidogaeth Bobl Hŷn yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Cyfeiriad e-bost Sally yw: sallyrees50@gmail.com