Digwyddiadau Bywyd
Gweinidogaeth Digwyddiadau Bywyd
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cwrdd â chefnogi pobl ar adegau allweddol eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Bob blwyddyn mae miloedd yn cysylltu â’i heglwys neu weinidog lleol er mwyn ei helpu nhw i ddathlu genedigaeth neu briodas neu i ymdrin â thristwch colli rhywun maen nhw’n ei garu.
Mae dathlu genedigaeth plentyn drwy fedydd, priodi, neu nodi diwedd bywyd drwy angladd yn adegau pwysig dros ben i deuluoedd. Mae’r cysylltiadau sydd yn cael eu gwneud ar yr adegau hyn, gan unigolion nad sydd fel arfer yn dod i gyswllt a’r eglwys, yn rhoi cyfle euraidd i’r eglwys i ddatblygu perthynas hirdymor.
Yn yr adran hon o Ddigwyddiadau Bywyd fe allwch ddod o hyd i adnoddau gwych i helpu eglwysi gyda'u gweinidogaeth Digwyddiadau Bywyd. Mae’r adnoddau yn rhoi gwybodaeth werthfawr a pherthnasol pan fydd bobl yn cysylltu am y tro cyntaf. Byddwch hefyd yn medru gweld fwy o syniadau ar sut i gynnal y cysylltiadau pwysig yma wrth edrych i’r dyfodol.
Digwyddiadau Bywyd | Gweinidogaeth i’r Eglwys gyfan
Mae ein hymchwil yn dangos bod aelodau rheolaidd o gynulleidfaoedd eglwysi yn gwybod braidd dim am weinidogaeth digwyddiadau bywyd eu heglwys, ac nid ydynt ynghlwm a’r digwyddiadau mewn unrhyw fodd. Mae Priodasau, bedyddiadau ac angladdau yn aml yn cael eu gweld fel cyfrifoldeb y ficer, ynghyd ac ambell i aelod o uwch dim yr eglwys. Fodd bynnag, gall yr eglwys ehangach chwarae rhan allweddol drwy gynnig ei chefnogaeth.
Rydym yn gwybod bod cadw mewn cysylltiad â phobl cyn ac ar ôl digwyddiadau bywyd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Nid yn unig ei fod yn ffordd effeithiol iawn o gysylltu pobl gydag eglwys ond mae hefyd yn ffordd iddyn nhw archwilio eu ffydd Gristnogol.
Digwyddiadau bywyd i’r Eglwys Gyfan. Mae’r fideos byr isod yn rhoi synodau hawdd ac ymarferol ar sut y gallwch chi a’ch eglwys gymryd rhan.
Gweinidogaeth Pawb
Gall Pawb Weddio
Pwysigrwydd Croeso
Helpu a Chefnogi ar Adegau o Lawenydd
Helpu a Chefnogi ar Adegau o Golled
Lledaenu'r Neges
Yr Ymchwil sy’n atgyfnerthu Digwyddiadau Bywyd
Cafwyd yr adnoddau eu creu yn dilyn ymchwil annibynnol helaeth a wnaed gyda’r cyhoedd dros nifer o flynyddoedd. Bydd y fideos canlynol yn helpu i esbonio rhai o’r canfyddiadau allweddol. Mae pob fideo yn para ychydig funudau felly gwnewch amser i’w gwylio.
Fideo 1 Beth yw ystyr Digwyddiadau Bywyd?
Fideo 2 Pwysigrwydd creu cysylltiadau cynnes
Fideo 3 Gwerth profiadau cadarnhaol gyda chysylltiadau ehangach
Fideo 4 Cydbwyso cynhesrwydd a phroses
Fideo 5 Cadw mewn cysylltiad
Fideo 6 Bod yn hyderus yn beth y gallwch gynnig
Os yr hoffech ddarllen trawsgrifiad o gynnwys o fideos;
Fideo 1
Beth yw ystyr Digwyddiadau Bywyd
Fideo 2
Pwysigrwydd creu cysylltiadau cynnes
Fideo 3
Gwerth profiadau cadarnhaol gyda chysylltiadau ehangach
Fideo 4
Cydbwyso cynhesrwydd a phroses
Fideo 5
Cadw mewn cysylltiad
Fideo 6
Bod yn hyderus yn beth y gallwch gynnig
Pamffledi, Llyfrynnau ac adnoddau eraill ar gael i’w harchebu
Ceir amrywiaeth o bamffledi, llyfrynnau a phecynnau gwybodaeth yn ymwneud â phriodasau, angladdau a bedydd ar gael. Nid oes rhaid i chi archebu copi o bopeth, ond edrychwch ar beth sydd ar gael a dewis y rhai sydd fwyaf perthnasol i’ch cyd-destun neu eich sefyllfa chi.
Mae yna hefyd llyfr gwaith sy’n ddelfrydol ar gyfer Cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth, Cynghorau Plwyf neu grwpiau astudio i weithio drwyddo a myfyrio ar y ffordd mae eu heglwysi yn ymdrin â’r weinidogaeth allweddol hwn. Mae hwn ar gael i’w archebu am ddim er mwyn galluogi cynifer ag y bo modd i ymgyslltu ag ef.
Gellir archebu’r deunydd argraffedig drwy ar wefan y CPO.
Mwy o Help, Cefnogaeth a Syniadau
Yn y fan hon fe welwch cannoedd o dudalennau sy’n rhoi syniadau ymarferol, nifer ohonynt yn enghreifftiau o ymarfer da, neu fentrau neu syniadau mai gweinidogion ac eraill wedi gweithredu’n llwyddiannus y neu eglwysi a’i grwpiau cymunedol. Yn y dyfodol hoffem ddatblygu’r adran ymhellach yn y dyfodol, felly rhowch wybod i ni am unrhyw syniadau neu fentrau newydd sydd wedi gweithio i chi ac sydd werth eu rhannu.
Ceir fwy o gyngor a help am Ddigwyddiadau Bywyd ar wefan yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r wybodaeth hwn wedi ei gynllunio i’r cyhoedd yn hytrach na chynnig adnoddau i weinidogion ac eglwysi. Mae’n le da i gyfeirio pobl sy’n edrych am help a chyngor i gynllunio priodas, angladd neu fedydd.