Profiad plwyf o ddilyn cysylltiadau a wneir mewn bedydd
Ar ôl diwrnod gwych Sandra Millar gyda ni fis Tachwedd diwethaf penderfynais roi rhai o’r awgrymiadau a gefais ar y diwrnod ar waith yn fy eglwys leol. Mae gennym griw mawr o blant 7-14 oed ond prin yw’r babanod a’r plant bach. O ganlyniad, mae gwirfoddolwyr y plant dan 5 yn colli ysbryd ac wrth gwrs rydym ni’n teimlo ein bod ni’n colli allan ar bresenoldeb llawen plant bach, ac ar y cyfle i ddarparu cymuned a lle ystyrlon a gobeithiol iddyn nhw a’u rhieni.
Ac eto, roedden ni’n dal i gynnal gwasanaethau bedydd. Felly roedd y teuluoedd hyn allan yno! Roedd angen i ni gysylltu â nhw’n well.
Beth oedd ar gael eisoes
Roedd gennym ni Eglwys Iau dda, felly roeddwn i’n teimlo’n hyderus y byddai teuluoedd a fyddai’n dechrau dychwelyd yn teimlo’n hapus am beth oedd ar gael.
Mae gennym ardal i blant yn yr eglwys, yn enwedig i’r rhai dan 5 oed, gyda theganau i ysbrydoli’r plant yn ysbrydol.
Cafwyd ymdrech gyfunol, hirdymor fwriadol i wneud diwylliant yr eglwys yn fwy croesawgar i deuluoedd ifanc.
Beth wnes i
Mae gen i duedd i geisio gwneud Popeth! Ar! Unwaith! a gorweithio, felly fe wnes i gyfyngu fy hun i ddau newid bach a syml:
- Anfon gwahoddiadau e-bost i ddigwyddiadau penodol.
- Sicrhau bod teuluoedd sy’n dychwelyd ar ôl Bedydd yn cael eu croesawu.
Drwy ddefnyddio Mailchimp, gwefan am ddim sy’n eithaf hawdd i’w defnyddio ar gyfer anfon llawer o e-byst, fe wnes i greu rhestr bostio o deuluoedd a oedd wedi bedyddio plentyn yn ein heglwys yn y pum mlynedd diwethaf.
Yna, wythnos neu ddwy cyn gwasanaeth y preseb, ein gwasanaeth Gŵyl Fair y Canhwyllau, ein gwasanaeth Sul y Mamau, yr Wythnos Fawr, a’n gwasanaeth Sul y Drindod i bob Oedran, anfonais e-byst syml at y rhai ar y rhestri hyn. Y geiriau yn y bocs pwnc oedd “Dewch i ddathlu gyda ni!”
Roedd pob e-bost yn syml ac i’r pwynt – rydym yn cynnal digwyddiad addas i blant bach. Ymunwch â ni! Byddem wrth ein bod yn eich gweld!
Ar gyfer gwasanaeth y preseb, fe wnes i eu hatgoffa bod dal eu plentyn a chanu “Dawel Nos” yng ngolau cannwyll yn rhywbeth arbennig na fydden nhw am ei golli. Ar gyfer gwasanaeth yr Wythnos Fawr, ysgrifennais baragraff byr fel “DS” yn eu hatgoffa pe baen nhw’n dod ar Sul y Pasg y bydden nhw’n gweld y gannwyll Basg newydd, ac efallai y bydden nhw’n ei chofio o fedydd eu plentyn. Ar gyfer gwasanaeth Gŵyl Fair y Canhwyllau fe ddywedais wrthyn nhw ein bod ni’n ail-oleuo’r holl ganhwyllau bedyddio ar ddiwedd y gwasanaeth felly fe allen nhw ddod â channwyll eu plentyn nhw os oedden nhw’n dymuno (ac y bydden ni’n rhoi un arall iddyn nhw os oedden nhw wedi’i cholli).
Yna fe ofynnais i dri unigolyn gadw llygad i weld a oedd unrhyw deuluoedd gyda phlant bach yn bresennol nad oedden nhw’n eu hadnabod, gan ofalu bod rhywun yn mynd i siarad â nhw ar ôl y gwasanaeth.
Beth ddigwyddodd
Fawr ddim i ddechrau. Roedd gwasanaeth y preseb yn debyg i’r arfer – plant yr ardal yr ydym yn eu gweld unwaith y flwyddyn – ac fe anwybyddwyd y taflenni a roddwyd yn y daflen wasanaeth yn gofyn am fanylion cysylltu i raddau helaeth. Yn ystod Gŵyl Fair y Canhwyllau a Sul y Mamau, gwelwyd y plant hŷn arferol hefyd.
Ond gwelwyd cynnydd araf dros y misoedd diwethaf. Dyma beth ddigwyddodd:
- Mae’r teuluoedd bedyddio wedi dechrau dychwelyd – ac nid i’n gwasanaethau pob oedran yn unig ond ar Suliau eraill hefyd.
- Maen nhw wedi creu perthynas gyda phobl yn yr eglwys – nid dim ond y ficer a minnau – diolch i’r bobl sydd wedi eu croesawu.
- Roedd gwybod bod gen i bobl a oedd yn barod i groesawu rhieni newydd yn golygu mod i o dan lai o straen ar ôl y gwasanaeth – pe bawn i’n gorfod ymdrin â rhywbeth arall, neu fod wyth o bobl eraill angen siarad â mi, a finnau’n methu cael cyfle i gyfarch y teulu newydd, ro’n i’n gwybod y byddai rhywun arall yn gwneud hynny.
- Mae ein gwirfoddolwyr gyda’r plant dan 5 oed nawr yn teimlo’n hyderus wrth baratoi sesiwn Eglwys Iau y bydd rhai plant yno i gymryd rhan ynddi. Maen nhw wedi eu calonogi.
- Mae’r rhieni’n gwybod bod yna Eglwys Iau dda yno ac felly’n teimlo’n gyffyrddus yn dod â’u plant. (DS: os nad oes gennych chi Eglwys Iau, meddyliwch beth allwch chi ei wneud ar y Sul i wneud teuluoedd plant bach i deimlo’n gyfforddus. Corneli i blant, croesawyr, y ficer yn atgoffa’r gynulleidfa i helpu rhieni sydd angen cymorth…)
Mae yna dri theulu Bedyddio y bydden ni nawr yn eu hystyried yn fynychwyr “rheolaidd” o’n heglwys (sef 2-3 Sul y mis), gyda 5 o blant ifanc rhyngddyn nhw. Mae yna bedwerydd teulu yr ydym yn eu gweld efallai bob rhyw 6 wythnos. Mae hyn yn sylweddol i eglwys o’n maint ni ac yn golygu bod gennym ni’r hyn sy’n teimlo fel “grŵp” o’r oedran hwnnw. (Mae hefyd yn golygu na fydd unrhyw deuluoedd newydd a ddaw yn awr yn teimlo fel yr unig deulu gyda phlant bach).
Beth ddysgais i
- Rydych chi angen ffrindiau yn y gynulleidfa - i groesawu’r rhieni newydd, i fod wrth law i’w helpu yn ystod y gwasanaeth, i negydu effeithiau’r bobl hynny sy’n dweud wrth y plant am fod yn dawel neu i ddweud “mae’n iawn - dim ond chwarae maen nhw” wrth unrhyw un sy’n edrych yn flin ar blentyn.
- Roedd Sandra yn iawn – mae ailadrodd yn gweithio. Dydy un gwahoddiad ddim yn mynd i sicrhau canlyniadau ond fe fydd deg gwahoddiad.
- Dywedodd sawl teulu a ddychwelodd eu bod wedi bwriadu gwneud hynny beth bynnag pan oedd eu plant ychydig yn hŷn – mae rhieni babanod a phlant bach yn gyndyn i ddod i’r eglwys gan eu bod yn ofni y byddan nhw’n tarfu ar y gwasanaeth. Gallai rhoi sicrwydd iddyn nhw ei bod hi’n iawn os yw eu plant yn ymddwyn fel plant eu helpu i ddychwelyd ychydig bach yn gynt na’r bwriad. Fel arall, mae’n bwysig dal i anfon gwahoddiadau am o leiaf bum mlynedd ar ôl y Bedydd, fel y byddan nhw’n gwybod beth sy’n digwydd a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw’n barod i ddychwelyd.
- Cadw pethau mor syml â phosibl. “Mae’n Nadolig. Mae yna wasanaeth y preseb. Noswyl Nadolig am 4pm. Bydd yn brofiad hyfryd ac arbennig. Dewch a dewch â’ch plant gyda chi.”
Plwyf yn Esgobaeth St Albans