Sanau babi ac esgidiau
Fe wnes i ddatblygu’r syniad hwn yn wreiddiol ar gyfer bedydd a gynhaliwyd adeg Nos Ystwyll. Ro’n i’n meddwl am roddion a theithiau a chefais y syniad o roi anrheg fach i bawb. Yr anrheg oedd un hosan babi.
Fe lapiais bob hosan yn unigol, fel bod digon i bawb, ac yna dosbarthu’r parseli bach i bawb oedd yn bresennol, gan ddweud wrthyn nhw am eu hagor. Roedd pobl yn chwerthin a gwenu wrth weld y sanau.
Fe ddywedais y gallen nhw fynd â’r hosan adref gyda nhw, ei chadw’n rhywle saff a bob tro y bydden nhw’n edrych arni y dylen nhw weddïo dros y plentyn a oedd wedi cael ei fedyddio ar ei daith anhygoel o ffydd a bywyd, gweddïo dros holl blant eu teulu, ac os oedden nhw am wneud hynny, gweddïo dros blant y byd.
Diflannodd pob hosan.
Fe ddefnyddiais y syniad ychydig wythnosau’n ddiweddarach mewn bedydd annibynnol. Ro’n i’n llai sicr a fyddai pobl yn cymryd yr anrheg, felly fe roddais y parseli i’r parti bedydd yn unig – rhieni, rhieni bedydd, neiniau a theidiau.
Fodd bynnag, fe wnes i sefyll wrth y drws gyda bocs yn llawn o becynnau – ac fe wnes i roi dros 50 i wahoddedigion a ofynnodd amdanyn nhw, sef ffrindiau’r rhieni’n bennaf.
Dwi wedi gwneud hyn mewn gwasanaethau bedydd a digwyddiadau hyfforddi bellach ac mae’n gweithio’n dda.
Dro arall, dwi hefyd wedi prynu pâr o esgidiau bedydd i’r plentyn sy’n cael ei fedyddio – esgidiau ymarfer bach – a’u defnyddio i siarad am y daith o’i flaen fel antur.
Awgrym ymarferol: prynwch sanau babi mewn siopau rhad adeg sêl, yn aml mae’n bosibl cael 10 pâr am lai na £2. Fel arall, gofynnwch i siop elusen leol a allwch chi fynd trwy’r bocs sanau babi: dydy sanau babi ddim yn gwerthu’n dda mewn siopau elusen!
Edrychwch ar y fideo i weld sut gwnes i hyn, mae’n hawdd iawn ac yn effeithiol iawn!
Y Parch Ddr Sandra Millar