Tedis Bedydd
Yn gymharol ddiweddar rydym wedi dechrau rhoi pecynnau Bedydd i deuluoedd y plant rydym yn eu bedyddio. Mae’r pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o bethau:
- Stori am Teddy Horsley o’r enw ‘Water.’
- Cylchgrawn Undeb y Mamau
- Cerdyn llongyfarch
- Taflen fechan yn egluro beth all tadau ei wneud i gefnogi eu plant yn ysbrydol
- Cerdyn i’r rhieni roi i rieni bedydd y plentyn
- Tedi wedi’i wau i’r plentyn dan sylw.
Mewn Cymun Gŵyl Fair y Canhwyllau diweddar., gofynnwyd am fendith Duw ar yr holl dedis y byddwn yn eu dosbarthu eleni. Mae croeso i chi ddefnyddio, addasu neu gywiro’r weddi:
Hollalluog Dduw, yr un sydd wedi creu ac yn caru pawb.
Diolchwn i ti am sgiliau’r rhai a wnaeth y tedis hyn ac am eu gofal.
Boed i dy fendith aros arnyn nhw.
Boed i’r plant sydd newydd eu bedyddio sy’n eu derbyn
adnabod dy gariad a’th ofal di, eu Tad Nefol,
na allan nhw dy weld,
drwyddom ni, dy deulu yma.
Drwy Iesu Grist a ddaeth yn blentyn fel ni,
a thyfu a byw a marw ac atgyfodi
ac sy’n teyrnasu am byth. Amen.
Simon Cutmore