Colomennod Bedydd
Mae plant ein heglwys yn gwneud y rhain fel anrheg i fabanod neu blant sy’n cael eu bedyddio yn ein heglwys, ac yn eu cyflwyno i’r teulu ar y diwrnod – mae’n ffordd dda o gadarnhau’r syniad y gall y plentyn sy’n cael ei fedyddio dyfu i fod yn blentyn sy’n dod i’r eglwys!
Byddwch angen dau blât papur i bob colomen, siswrn, pennau ffelt, tyllwr, tâp gludiog dwy ochr (neu lud os dymunwch chi), darnau bach o bapur, darn o wlân (tua 12-18 modfedd) i bob colomen. Gallech argraffu’r geiriau ymlaen llaw ar sticer neu ddarn o bapur - gweler y llun. Gadewch linell ddotiog i ysgrifennu enw’r plentyn â llaw.
- Gwnewch amlinelliad o golomen ar y plât papur, fel bod blaen yr adenydd a’r gynffon yn elwa ar y crimpio sydd o amgylch y plât, ond bod y pen a’r bol yn gyfan gwbl ar y rhan wastad o’r plât. Gallwch dorri’r siâp allan a’i ddefnyddio fel templed ar eich darn gwastad o gerdyn – bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws ailadrodd siâp y golomen ar y plât arall, neu os ydych chi angen gwneud mwy nag un!
- Gwnewch golomen arall, ond y tro yma defnyddiwch y templed y ffordd arall (neu, os ydych am edrych arni y ffordd yna, drwy dynnu ar gefn y plât yn hytrach nag ar y blaen). Y naill ffordd neu’r llall, rydych am allu gludo’r pâr o golomennod at ei gilydd yn y pen draw, gyda’r adenydd a’r gynffon yn gwyntyllu allan, fel yn y llun. Rhowch gynnig arni, a gobeithio y gwelwch chi beth dwi’n ei feddwl.
- Defnyddiwch dâp gludiog dwy ochr i lynu pob pâr o golomennod gyda’i gilydd. Byddwch angen un stribed bach ar waelod y bol, un rhwng y corff a’r gynffon, ac un wrth y gwddf. Peidiwch â glynu’r cefn na’r adenydd gyda’i gilydd.
- Plygwch yr adenydd ar wahân yn araf. Defnyddiwch y tyllwr i wneud twll ar ben yr adain, mor agos ag y gallwch chi at y pwynt cydbwysedd (y pwynt cydbwysedd ar fy un i oedd tua chefn top yr adain). Clymwch bob pen o’r gwlân drwy un o’r tyllau, fel bod gennych chi ddolen i hongian y golomen.
- Glynwch y sticer neu’r darn o bapur gyda’r geiriau arno, ac ysgrifennwch enw’r plentyn sy’n cael ei fedyddio ar y llinell ddotiog.
- Yn y pen draw, fe ddylech fod â rhyw fath o ‘boced’ rhwng adenydd y golomen. Dyma ble fyddwch chi’n defnyddio’r darnau bach o bapur. Gall plant ysgrifennu enw neu fendithion / gobeithion / gweddïau (cymaint ag yr hoffen nhw) ar y papurau, yna eu postio i gefn y golomen, yn y bwlch rhwng yr adenydd. Efallai y bydd pethau fel cariad, doethineb, hapusrwydd, teulu, iechyd ac ati yn cael eu hawgrymu. Gellir llunio gweddi o’r geiriau hyn ar gyfer y plentyn sy’n cael ei fedyddio wrth gyflwyno’r golomen iddo.
Mae’r colomennod yn edrych yn syml iawn a dydyn nhw ddim yn gampweithiau ond gallan nhw deimlo’n arbennig i rieni newydd sy’n dod â’u babanod i’w bedyddio, sydd heb eto gael eu gorlwytho â gwaith celf a chrefft eu plant.
Ally Barrett