Syniad am bregeth gwasanaeth bedydd yn defnyddio ‘siec miliwn o bunnau’
Dyma amlinelliad byr ar gyfer pregeth gwasanaeth bedydd: mae Duw yn rhoi anrheg i ni heddiw – beth wnawn ni gydag ef?
Mae siec miliwn o bunnau yn ennyn diddordeb pobl bob amser ac mae’n helpu pobl i feddwl pam maen nhw yn yr eglwys y bore hwnnw a beth sy’n digwydd nawr!
Cyfeiriad Beiblaidd: gellir defnyddio cant a mil: Galatiaid 5:16-25 (ffrwythau’r ysbryd), Ioan 14:15-21 (yr Esgyniad), Actau 1 (Pentecost), Mathew 25:14-30 (Codau o Arian)
Nodiadau’r anerchiad:
- Beth fyddech chi’n ei wneud pe bawn i’n rhoi siec am filiwn o bunnau i chi heddiw?
- Gallech fynd â hi adref, rhoi hi mewn ffrâm a’i hongian ar y wal, edrych arni’n achlysurol a dweud ‘wyt ti’n cofio’r diwrnod pan gafodd X ei fedyddio, a’r ficer yn rhoi’r siec miliwn o bunnau yma i ni? Chwarae teg iddi, dwi wir yn hoffi’r syniad o filiwn o bunnau, mae’n edrych yn neis, dwi’n hapus fod gynnon ni’r siec yma, ond dwi ddim am wneud unrhyw beth arall gyda’r siec oherwydd fe allai hynny fy newid, efallai y byddai’n rhaid i mi feddwl yn galed sut y bydden i’n byw fy mywyd gyda miliwn o bunnau, efallai y byddai’n rhaid i mi ystyried anghenion pobl eraill, felly dwi am adael y siec yn fanno.’
- Neu, gallech fynd â’r siec i’r banc a defnyddio’r arian i helpu X wrth iddo dyfu a rhoi cymorth iddo ar hyd y ffordd a chael y dyfodol gorau posibl; wrth wneud hynny rydych wedi buddsoddi’r arian a mwynhau’r manteision, gallech ei rhannu gyda’ch anwyliaid a rhoi rhywfaint o arian i elusennau a gadael i eraill elwa hefyd.
- Wel mae bedydd yn union yr un fath, heddiw wrth i chi wneud addunedau dros X, bydd yn cael ei groesawu i gorff yr eglwys, teulu Duw; oherwydd hynny mae ganddo fynediad i gyfoeth teyrnas Dduw a’r Ysbryd Glân i fyw gydag ef a’i helpu i fyw ei fywyd i Dduw.
- Byddai’n drueni pe bai heddiw’n aros yn atgof y byddwch chi’n edrych yn ôl arno gan feddwl, o dyna neis; eich bod chi’n hoffi’r syniad o’r ffydd Gristnogol, a’i fod yn edrych yn neis, fel papur miliwn o bunnau wedi’i fframio.
- Gwell o lawer fyddai manteisio a mwynhau’r rhoddion sydd gan Dduw i chi a neu X, defnyddio cariad Duw, buddsoddi ynddo drwy ddysgu mwy amdano a thrwy fwynhau manteision bywyd tragwyddol drwy ddechrau yn awr, ei rannu a gadael i eraill elwa ar haelioni Duw a byw’r bywyd gorau posibl gyda Duw yn y canol.
Shanthi Thompson