Siôl bedydd fel symbol
Mae gan y gwasanaeth bedydd ddarpariaeth ar gyfer “dillad” y sawl sydd newydd gael ei fedyddio. Rwy’n lapio plentyn mewn siôl wen ar y pwynt hwn, naill ai un sy’n arbennig i’r teulu, neu fe allan nhw fenthyg un gennym ni – siôl rydym wedi’i chreu ein hunain a’i phwytho gyda symbolau’r bedydd. Rwy’n egluro ei fod yn symbol o’r plentyn yn cael ei lapio yng nghariad Duw, ar ôl darllen y geiriau a nodir yn y litwrgi (Gwisgwyd di â Christ) Rwy’n ychwanegu: Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Gist wedi gwisgo Crist amdano (Galatiaid 3.27).
Rwyf hefyd yn ychwanegu geiriau gan Julian o Norwich, “As the body is clad in the cloth, and the flesh in the skin, and the heart in the whole, so are we, soul and body, clad in the goodness of God, and enclosed.” Mae’n rhan deimladwy iawn o’r gwasanaeth bob amser, sy’n cael ei gwerthfawrogi gan y rhieni’n enwedig. Nid nhw yn unig sy’n gwarchod ac yn gofalu am eu plentyn, ond Duw hefyd. Yn ddiddorol ddigon, mae’n ymddangos fel petai’n llawn mor bwerus wrth ei ddefnyddio gyda phlant hŷn ac oedolion hefyd – mae pawb angen cael eu lapio o bryd i’w gilydd!
Anne Le Bas