Bedydd – ond beth am yr enwau Saesneg ar y ddefod?
Cynhaliodd Cyngor Archesgobion Eglwys Loegr ymchwil i weld a oedd hi’n bwysig defnyddio’r gair ‘Baptism’ neu ‘Christening’.
Yr awgrym cynnar ar y cyfryngau cymdeithasol oedd bod llawer o bobl, yn enwedig clerigion, yn gwrthwynebu defnyddio’r term “christenings” gan ei fod yn gorsymleiddio gwirionedd diwinyddol, bod y daith yn dechrau gyda baptism a bod “christening” yn is-set.
Yn ystod gwaith ymchwil eang gyda theuluoedd yn yr eglwys a thu hwnt, daeth hi’n amlwg eu bod nhw’n galw’r achlysur yn ‘christening’. Amlygodd un stori y broblem hon.
Mae rhiant yn derbyn galwad ffôn gan rywun yn siarad Saesneg yn gofyn a yw ei eglwys yn gwneud “christenings?” “Ydyn,” atebodd. “Diolch i Dduw am hynny,” meddai’r rhiant. “Chi oedd y chweched person i fi alw a dim ond baptisms oedd y lleill yn ei wneud.”
Arweiniodd yr ymchwil at ganfyddiadau a oedd yn tanlinellu’r stori, gyda phobl dros 10 gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio’r gair “christening” wrth chwilio ar y we na’r gair “baptism”. Mae “christening” yn fan cychwyn gwych pan mae teuluoedd am siarad â ni ac rydym am ymateb drwy rannu’r cyfan sy’n digwydd pan fydd eu plentyn yn cael ei fedyddio (baptized at a christening).
Mae bedydd (“baptism”) yn ddefod Gristnogol, a dyma ddechrau oes o ddarganfod beth mae’n ei olygu i fod yn ddilynwr Iesu Grist. Dangosodd yr ymchwil hefyd fod teuluoedd sy’n gofyn i Eglwys Loegr fedyddio eu plentyn am roi dechrau da mewn bywyd iddo, eu bod nhw eisiau derbyn bendith Duw ac am gael eu hamgylchynu gan gariad teulu a ffrindiau. Mae cael sgwrs gyda theulu sy’n gofyn am fedydd yn agor y posibiliadau o fynd â nhw ar y daith ddarganfod honno hefyd.
Ond nid gair diwylliannol poblogaidd yw “christening” yn unig. Mae ganddo ddefnydd litwrgaidd sefydledig hefyd ac ystyr ddiwinyddol dwfn. Fel mae’r Canon Tom Clammer, Arweinydd y Gân yn Eglwys Gadeiriol Caersallog yn ei nodi : “Although the word ‘Christening’ doesn’t appear often in the liturgical rites of the Church of England, it is interesting to note that it does appear in the Prayer Book of 1662 in the rite for the Private Baptism of Infants, where it appears to be interchangeable with the word ‘Baptism’. To ‘Christen’ someone means to make someone one with, or incorporate them with, or into, Christ, and as such it is a rather wonderful word to use to describe what is happening at a baptism. As a parish priest in both rural and urban settings I have taken very many telephone calls from people asking me to ‘Christen’ their baby. That will not be a unique experience. It seems to me that rather than try to correct the language, we might better celebrate that these ‘phone calls continue to come, and grasp the pastoral opportunity to explore together with the family of a young child what all the excitement and promise of being Christened – ‘incorporated into Christ’, might mean.”
Drwy siarad mewn iaith y mae pobl yn gyfarwydd â hi rydym yn ennyn sgwrs, sy’n ein galluogi ni i wrando ar eu meddyliau, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni eu tywys ar y cam cyntaf o ddealltwriaeth wrth iddyn nhw sylweddoli beth sy’n digwydd mewn gwirionedd wrth i’w plentyn gael ei fedyddio.
Mae’r egwyddor hon yn mynd yn ôl i’r Actau, pan oedd yr apostol Paul yn cyhoeddi’r ‘Duw nid adwaenir’, gan nodi bod yr iaith leol yn mynegi dyheadau dwfn y gellid eu bodloni yn Iesu Grist. Mae gwasanaethau bedydd yn rhoi cyfle heb ei ail i ni siarad â phobl 18-45 oed, am berthynas â Duw na fydd llawer ohonynt yn ei adnabod (“nid adwaenir”). Wrth iddyn nhw droi atom ni, maen nhw’n dod â’u ffrindiau a’u teuluoedd gyda nhw, wrth i ni geisio eu helpu i gymryd rhan mewn proses gydol oes o fyw newyddion da cariad Dduw a ddatgelwyd yn Iesu Grist.
Mae’r holl adnoddau Cristnogol newydd wedi’u cynllunio i helpu teuluoedd i sicrhau bod eu taith ffydd Gristnogol yn daith oes gyda’u plant. Mae’r wefan yn cynnwys syniadau am weddïau a darlleniadau o’r Beibl, ffyrdd i wneud ffydd yn rhan o fywyd bob dydd, a llawer o anogaeth a fydd yn helpu pobl i weld bod bedyddio plentyn yn ddechreuad ar rywbeth newydd.
Y Parch Ddr Sandra Millar