Creu Bocs Bedydd
Dyma fy Mocs Bedydd, rwy’n ei ddefnyddio wrth baratoi plant 3-10 oed (yn fras) ar gyfer bedydd. Dyma’r plant sy’n mynd i fod yn ‘ateb drostyn nhw eu hunain’ – h.y. yn gwneud eu haddunedau bedydd eu hunain – ond fel arfer bydd rhieni bedydd yno a fydd yn gwneud yr addunedau hynny gyda’r plentyn (nid ar ei ran). Fel rheol, rwy’n paratoi 1 i 1 ar gyfer y bedydd gyda’r rhiant (rhieni) yn bresennol hefyd.
Mae’n lliwgar ac ychydig yn llachar – mae’n sicr yn edrych fel rhywbeth arbennig. Dwi ond yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn, felly fydd y plant ddim wedi’i weld o’r blaen. Mae e tua 25cm sgwâr.
Mae’r bocs bedydd yn cynnwys:
- lliain gwyn
- powlen
- jwg
- fflasg o ddŵr
- dol
- cannwyll
- matsis
- llestr bach yn cynnwys olew
- Beibl (priodol i oedran y plentyn)
- llun o fedydd (bedydd plentyn o’r un oedran yn fras, os oes modd)
Rwy’n egluro bod y bocs bedydd yn cynnwys pethau arbennig i’n helpu ni i feddwl am yr achlysur arbennig hwn. Rwy’n eu hestyn allan bob yn un neu ddau, yn siarad gyda’r plentyn am y rhan o’r gwasanaeth maen nhw’n berthnasol iddi, ac yn gofyn i’r plentyn ‘feddwl’ gyda mi beth mae’r gwahanol wrthrychau a’r geiriau yn eu golygu neu yn eu hatgoffa ni ohonyn nhw.
Yn gyntaf, rwy’n rhoi’r lliain gwyn ar y llawr/bwrdd ac yn estyn y dŵr, y jwg a’r bowlen. Rwy’n tywallt y dŵr i’r jwg, ac yn gwahodd y plentyn i’w dywallt i’r bowlen. Rydym yn trafod ar gyfer beth rydyn ni’n defnyddio dŵr (golchi, yfed, dyfrio planhigion ac ati). Bydd llawer o blant yn dweud bod angen dŵr i fyw. Yna, rydym yn trafod straeon o’r Beibl gyda dŵr ynddyn nhw - y creu, y dilyw, yr ecsodus, bedydd Crist, y briodas yng Nghana, cerdded ar y dŵr ac ati.
Nesaf, rwy’n cyflwyno’r ddol ac yn gwahodd y plentyn i ddewis enw iddo/iddi. Rydym yn trafod pwysigrwydd enwau. Efallai fod y plentyn yn gwybod rhywbeth am ei enw ei hun - beth mae’n ei olygu, neu ar ôl pwy y cafodd ei enwi. Yna, rwy’n bedyddio’r ddol, ac yn gwahodd y plentyn i roi cynnig arni. Yn aml, rwy’n gofyn i’r plentyn sut mae’n meddwl fydd y ddol yn teimlo am gael ei bedyddio - mae hyn yn gyfle i’r plentyn siarad yn ddiogel am sut mae’n teimlo ei hun.
Yna rwy’n estyn am y gannwyll a’r matsys. Rydym yn siarad ychydig am olau a thân, a beth allan nhw ei olygu neu sut gallan nhw gael eu defnyddio, gan gyffwrdd â’r syniad o’r Ysbryd Glân yn cael ei gynrychioli gan dân, ac Iesu Goleuni’r Byd. Rwy’n goleuo’r gannwyll a’i rhoi i’r plentyn i’w dal. Fel arfer, mae yna dawelwch ar y pwynt hwn. Yna, rwy’n cyflwyno’r geiriau “Llewyrcha fel goleuni yn y byd er gogoniant i Dduw’r Tad” ac rydym yn trafod beth allai hynny ei olygu. Mae’r plentyn yn chwythu’r gannwyll, ac rydym yn siarad am y syniad na ellir diffodd golau Crist.
Yna, rwy’n estyn am y llestr bach sy’n cynnwys yr olew. Gall y plentyn geisio dyfalu beth sydd y tu mewn iddo. Yna, rwy’n ei wahodd i agor y llestr, cyffwrdd yr olew, a dyfalu eto. Rwy’n dangos trwy wneud arwydd y groes ar dalcen y ddol, ac yn gwahodd y plentyn i wneud yr un fath. Eto, rwy’n gofyn i’r plentyn sut mae’n meddwl mae’r ddol yn teimlo.
Yna, rwy’n egluro bod yna rai pethau arbennig am fedydd na allwn eu gweld – y geiriau arbennig rydym ni’n eu defnyddio. Rydym yn edrych ar y geiriau allweddol sy’n cael eu defnyddio a’r addunedau sy’n cael eu gwneud mewn bedydd gyda’n gilydd. Rydym yn trafod pa addunedau y bydd y plentyn yn eu gwneud yn y bedydd, a pha addunedau mae Duw yn eu gwneud iddo ef.
Yn olaf, rwy’n estyn am y llyfrau – Beibl a llyfr am fedydd, y ddau yn briodol i oedran y plentyn a/neu ei allu darllen. Efallai y byddwn yn darllen y llyfr am fedydd (neu ran ohono) gyda’n gilydd. Byddaf yn gadael y llyfrau i’r plentyn a’i deulu eu benthyg (neu i’w cadw os ydw i’n gweld nad oes llawer o lyfrau yn y tŷ).
Yna, rwy’n gofyn a oes gan y plentyn a’i riant(rhieni) unrhyw gwestiynau ac mae hyn yn arwain at drafodaeth bellach yn aml.
Erbyn diwedd y sesiwn, mae pethau’n edrych fel hyn:
Yna, rwy’n gwahodd y plentyn i fy helpu i roi popeth yn ôl yn y bocs, gan gofio ar gyfer beth mae popeth wrth i ni eu cadw.
Mae’r sesiwn hon yn cael ei hategu gan ymarfer ar y diwrnod cyn y bedydd, pan fyddwn yn ailadrodd y geiriau a’r symbolau allweddol, wrth i ni fynd trwy drefn y gwasanaeth. Mae’n gyfle arall i ofyn unrhyw gwestiynau hefyd.
Ruth Harley