Syniad creadigol ar gyfer cynnwys pawb yn y gwasanaeth gan ddefnyddio platiau papur
Fe wnes i greu cyfres o blatiau papur gyda lluniau a negeseuon arnyn nhw. Lluniau o ddŵr, croes a channwyll oedd arnyn nhw
Y negeseuon a ysgrifennwyd arnyn nhw oedd:
- Teulu
- Ffrindiau
- Rhieni bedydd
- Bwyta allan
- Cwrdd am ddiod/sgwrs
- Pen-blwydd
- Byw yn xx (cymuned ardal yr eglwys)
Roedd y plât bwyta allan ar gyfer y fam gan ei bod hi a’i ffrindiau yn mwynhau mynd allan am fwyd. Roedd y plât diod/sgwrs ar gyfer y tad a’i ffrindiau. ‘Byw yn xx’ oedd y pentref lle cynhaliwyd y gwasanaeth.
Trwy ddefnyddio’r tri symbol lluniau, roedd modd i mi siarad am arwyddocâd y symbolau, a gofynnais i aelodau’r gynulleidfa ddod draw i ddal y lluniau.
O ran y platiau negeseuon, gofynnais i bawb yn y gynulleidfa sefyll os oedden nhw’n gysylltiedig â theulu’r bedydd drwy’r hyn a oedd wedi’i ysgrifennu ar y plât. Eto, daeth aelod o’r gynulleidfa i’r blaen i ddal y plât. Dechreuwyd yr un pen-blwydd drwy gael pawb a oedd yn rhannu’r un mis pen-blwydd â’r babi i sefyll, gan leihau’r niferoedd i’r bobl hynny a oedd yn rhannu’r un dyddiad. (Fel mae’n digwydd, roedd hi’n cael ei phen-blwydd ar yr un diwrnod â fi!).
Ar ôl gofyn y cwestiynau hyn i gyd gofynnais a oedd yna rywun a oedd heb sefyll o gwbl a ches i ddim ymateb. Felly, ro’n i’n gallu sôn am gydgyfrifoldeb y gynulleidfa gyfan, bod pawb yn gyfrifol am dwf a datblygiad y babi.
Rob Marsh