Annog rhieni a rhieni bedydd i ddewis adnod o’r Beibl
Yn 2015, mynychais gynhadledd yn Esgobaeth Durham i drafod arferion a diwinyddiaeth bedydd gyda chydweithwyr o’r Eglwys Lutheraidd yng Ngogledd yr Almaen. Un syniad y gwnes i ei fenthyg gan ein ffrindiau o’r Almaen oedd annog rhieni a rhieni bedydd i ddewis adnod o’r Beibl ar gyfer bedydd eu plentyn. Ailwampiwyd y ffordd rydym yn paratoi at fedydd yn llwyr (sesiwn rydym yn ei chynnal yn yr eglwys y mae’r rhieni a’r rhieni bedydd yn ei mynychu gyda’i gilydd) ac fe aethom ati i gyflwyno’r syniad o ddewis adnod, gyda’r adnod wedyn yn cael ei darllen yn y gwasanaeth. Mae gennym restr o adnodau iddyn nhw ddewis ohonyn nhw (er y byddem yn croesawu unrhyw geisiadau gwahanol):
- Bydded i’r Arglwydd dy fendithio a’th gadw – Numeri 6:24
- Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd. – Diarhebion 3:5
- Chwi yw goleuni’r byd – Mathew 5:14
- Yr wyf gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser. – Mathew 28:20
- Byddwch yn dirion wrth eich gilydd – Effesiaid 4:32
- Dyma ei orchymyn…ein bod i…garu ein gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni – 1 Ioan 3:23
- Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy. – Luc 6:31
- Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu – Philipiaid 4:13
- Paid ag ofni: yr wyf fi gyda thi. – Eseia 43:5
Pan gyflwynwyd hyn gennym i’r sesiwn baratoi ar gyfer bedydd, roedd hi’n galonogol gweld nad oedd y teuluoedd yn dewis adnod yn fympwyol ac yna’n symud ymlaen. I’r gwrthwyneb, roedd y grwpiau’n aml yn treulio cryn amser yn trafod pa adnod i’w dewis ar gyfer eu plentyn ac yn gofyn yn rheolaidd am Feibl er mwyn gallu cyfeirio ati. Rydym bellach yn defnyddio’r adnod fel sail ar gyfer y darlleniad o’r Beibl yn y gwasanaeth ac yna’n pregethu ar y darn hwnnw - mae pobl yn fwy parod i wrando hefyd pan fyddaf yn dweud bod y teulu wedi dewis yr adnod hon yn arbennig. Rydym yn llunio ein tystysgrifau bedydd ein hunain ac mae’r adnod a ddewiswyd yn cael ei hargraffu arni i atgoffa’r teulu.
Felly, newid syml ond mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n gweinidogaeth fedydd.
Rydw i wedi bod yn meddwl pam mae hyn wedi bod yn ychwanegiad mor boblogaidd i’n sesiynau bedydd. Mae’n debyg ei fod yn adlais o ysbryd yr oes. Mae cael dyfyniadau ar glustogau ac ati neu ar wal eich cartref yn reit boblogaidd ar hyn o bryd.
Mae cael tatŵ o ddyfyniad yn boblogaidd iawn hefyd. Felly, wrth egluro i deuluoedd bod ganddyn nhw gyfle i bersonoleiddio’r gwasanaeth bedydd drwy ddewis adnod arbennig a fydd yn arwyddair bywyd i’w plentyn, maen nhw’n deall yn syth beth sydd gen i. Mae’n ffordd syml ar y naw o gael pobl i gymryd rhan mewn astudiaeth Feiblaidd. Felly beth am roi cynnig arni?
Bryony Taylor