Annog neiniau a theidiau i weddïo dros y sawl a fedyddiwyd
Mae gweddïo dros y berthynas plentyn bedydd/rhiant bedydd yn ystod un o’ch gwasanaethau arferol yn ffordd hawdd o gynnwys rhieni bedydd yn dilyn bedydd mewn eglwys.
Mae yna rieni bedydd a phlant bedydd yn ein cynulleidfaoedd. Manteisiwch ar y cyfle i neilltuo amser yn y gwasanaeth i weddïo dros y berthynas arbennig rhwng rhiant bedydd a phlentyn bedydd. Gweddïwch dros y rhieni bedydd yn y gynulleidfa a’r addunedau a wnaethon nhw ar gyfer eu plant bedydd. Gweddïwch dros y plant sydd wedi’u bedyddio yn yr eglwys yn ddiweddar. Gallech ddefnyddio rhai o’r gweddïau syml canlynol:-
Gweddïau syml i’w hadrodd
Gweddïau ysgrifenedig syml y gallech eu rhoi ar sgrin neu daflen wasanaeth i bawb eu cydadrodd.
Fersiwn A – i rieni bedydd yn unig, gyda symudiadau
Dduw Cariadlon, diolch am y llawenydd o fod yn rhiant bedydd. [Pob rhiant bedydd i chwifio eu dwylo’n frwd]
Helpa fy mhlentyn bedydd i estyn allan at eraill â chariad [dwylo yn ymestyn allan]
A thyfu mewn ffydd bob dydd. [plygu dwylo mewn ystum gweddi]
Amen.
Fersiwn B – rhieni bedydd a phlant bedydd i gydadrodd
Dduw Cariadlon, diolch i ti am lawenydd rhieni bedydd a phlant bedydd.
Cynorthwya ni i ymestyn allan i eraill â chariad
Ac i dyfu mewn ffydd bob dydd.
Amen.
Fersiwn C – i blant bedydd
Annwyl Dduw, Diolch i ti am fy rhieni bedydd, gofala amdanyn nhw a bendithia nhw
Helpa fi i fod yn garedig a chariadus tuag atyn nhw a helpa ni i ddysgu mwy amdanat ti gyda’n gilydd
Amen.