Annog pobl i gofio eu haddunedau bedydd eu hunain
Rydw i wedi defnyddio syniad ges i mewn diwrnod hyfforddi diweddar gyda Sandra Millar yng Nghaerlŷr, ac mae wedi cael croeso brwd.
Gosodais fasged yn cynnwys petalau rhosod artiffisial ger y bedyddfaen ac anogwyd pawb o’r gynulleidfa i osod petal yn y dŵr os oedden nhw am gofio eu bedydd eu hunain ar yr adeg hon. Mae rhai’n trwytho’r petalau mewn persawr bob tro.
Yn un o’m heglwysi, ble mae’r bedyddfaen yn y cefn ger y drws, rwy’n eu hannog i’w wneud wrth iddyn nhw adael. Mewn eglwys arall, lle mae yna fedyddfaen bychan yn y blaen, fe wnes i’r weithred yn ganolbwynt i’r gwasanaeth a chwarae cerddoriaeth dawel.
Cefais y petalau oddi ar ebay ac mae’n bosibl eu hailddefnyddio ar ôl iddyn nhw sychu. Cefais y basgedi o Pound Shop.
Mewn un gwasanaeth lle defnyddiais y syniad hwn, fe gymerodd dros 80 o gynulleidfa o 100 ran!
Rob Marsh