Llyfr ôl-troed o weddïau
Rwy’n rhoi ôl-troed wedi’i dorri allan i bob aelod o’r gynulleidfa, ac fel rhan o’r gweddïau, rwy’n eu gwahodd i ysgrifennu gweddi arno, neu air ar gyfer y plentyn/babi sy’n cael ei fedyddio.
Gallai hyn fod yn rhywbeth syml fel, ‘cyfeillgarwch’, ‘cariad’, ‘hapusrwydd’ neu frawddeg gyfan o weddi. Gallai’r plant llai dynnu llun.
Yna, mae’r olion traed yn cael eu casglu a’u rhoi ar ruban i greu llyfr. Gallai’r ôl-troed blaen gynnwys enw’r plentyn a dyddiad a lleoliad y bedydd. Bydd hwn yn cael ei roi i’r teulu ar ddiwedd y gwasanaeth.
Mae’r teuluoedd wrth eu bodd gyda hyn, ac wedi mwynhau darllen beth mae eraill wedi’i ysgrifennu ar gyfer eu plentyn.