Syniadau defnyddiol ar gyfer diwrnod y bedydd ei hun
Y pethau mae’r eglwys yn eu cymryd yn ganiataol sy’n cael yr effaith fwyaf ar deuluoedd a’u gwahoddedigion yn aml. Mae gweddïo drostyn nhw gan eu henwi, y ffordd y mae’r dŵr yn cael ei dywallt i’r bedyddfaen, cannwyll wedi ei goleuo, hyd yn oed curo dwylo, i gyd yn eiliadau arwyddocaol iawn. Mae ychwanegu cyffyrddiad personol ym mhob cam yn gwneud y cyfan hyd yn oed yn fwy arbennig i’r teulu a’r gwahoddedigion. Mae’r pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr…
Ar fore’r gwasanaeth, bydd rhieni plentyn bach neu fabi yn brysur yn paratoi eu hunain a’r plentyn. I lawer o deuluoedd, fe fydd yna barti wedyn ac fe fyddan nhw am wneud ymdrech ac edrych yn drwsiadus. Dydy hi ddim yn hawdd trefnu dillad glân, newid cewyn, bwydo a rhoi cyfle i’r plentyn gysgu hyd yn oed ar ddiwrnod arferol, felly efallai y byddan nhw wedi cael bore reit anodd cyn cyrraedd yr eglwys!
Dyma rai awgrymiadau i helpu’r teulu i ymlacio:
- Rhowch groeso cynnes iddyn nhw wrth iddyn nhw gyrraedd yr eglwys, gofynnwch ydy’r plentyn yn iawn, edmygwch eu gwisgoedd a hebryngwch y teulu i’w seddau.
- Mae rhai eglwysi’n ymuno â’r naws dathlu drwy osod balŵns a chael neges groeso bersonol i’r teulu ar sgrin y taflunydd.
- Efallai y bydd rhai teuluoedd a rhieni bedydd yn poeni am ddweud y pethau cywir ar yr adeg gywir, felly gwnewch yn siŵr fod pawb sydd â ‘llinellau’ i’w dweud yn cael copi o Drefn y Gwasanaeth.
- Lle bo’n bosibl gwneud hynny, argraffwch eiriau’r emynau neu ewch ati i’w harddangos ar sgrin taflunydd os oes gennych chi un. Dylech gynnwys enw’r plentyn/plant a llun, lle bo’n bosibl.
- Anogwch rywun o’r teulu i ddarllen darn o’r Beibl, ond cofiwch ond gwneud hynny os ydych wedi trefnu hynny ymlaen llaw.
Yn ystod y gwasanaeth, dyma rai o’r adegau y gellir eu gwneud yn fwy arbennig:
Arwyddo arwydd y groes
Mae’n bosibl i’r rhieni neu’r rhieni bedydd wneud hyn yn ogystal â’r gweinidog. Gofynnwch i’r rhieni ymlaen llaw sut bydden nhw’n teimlo am bobl eraill yn gwneud arwydd y groes gyda’r ficer. Bydd y babi’n llai tebygol o grïo (er na allwch chi fod yn sicr o hyn!) wrth wenu ac edrych arno pan fydd yr arwydd yn cael ei wneud.
Y dŵr
Mae’r bedyddio ei hun mor bwysig i deuluoedd - mae’r dŵr yn dilysu’r gwasanaeth fel gwasanaeth ‘go iawn’. Mae ffurfioldeb y geiriau’n helpu i roi ymdeimlad o ddifrifoldeb i’r foment hon ac mae pawb yn dueddol o fynd yn dawel. Ar yr un pryd, y ddrama o dywallt y dŵr fydd yr hyn fydd yn aros yng nghof y rhieni; gydag atgofion, mae symbol yn llawer mwy pwerus na geiriau. Felly, gwahoddwch y rhieni a’r rhieni bedydd i glosio. Gellir annog plant yn y gwasanaeth i gasglu o amgylch y bedyddfaen i weld beth sy’n digwydd yn agos. Mae’n eu helpu i deimlo bod yr eiliad hon yn un arbennig ac arwyddocaol. Ar ôl y bedydd, mae gwahodd pobl i gymeradwyo yn gyfle i bawb ymlacio ac yn gwneud y cyfan yn fwy arbennig i’r teulu.
Gweddïau
Dylech gynnwys gweddïau personol dros y plentyn a’r teulu ar ryw bwynt yn y gwasanaeth a defnyddio enwau cyntaf lle bo’n bosibl gydol y gwasanaeth – bydd hyn yn rhoi naws bersonol i’r teulu. Ceisiwch gynnwys unrhyw weddïau y mae’r teulu wedi gofyn amdanyn nhw. Efallai fod yna ffyrdd creadigol o helpu pawb i gymryd rhan.
Cannwyll
Gan fod symbolau yn ffordd rymus o greu atgofion, mae cael cannwyll yn arwyddocaol iawn i deuluoedd. Mae’r ymchwil yn dangos mai cael cannwyll yw un o’r eiliadau allweddol sy’n aros gyda’r teulu ymhell ar ôl y gwasanaeth. Maen nhw’n caru’r rhodd hon gan eu heglwys ac yn ei chadw i’w hatgoffa am y diwrnod a’r cyfan mae’n ei gynrychioli. Gellir cyfeirio ati yn y dyfodol hefyd – gall teuluoedd ei goleuo am ychydig bob blwyddyn fel ffordd o gofio’r bedydd ar y dyddiad bob blwyddyn.
Gwahoddiad i wahoddedigion
Gall teuluoedd ddod â llawer o ffrindiau a theulu estynedig gyda nhw. Fe fyddan nhw’n cael argraff o beth yw eglwys a Duw o’r gwasanaeth. Estynnwch groeso’r eglwys drwy gynnig rhywbeth iddyn nhw hefyd.
Gallwch roi nod llyfr yr un i’r gwahoddedigion wrth iddyn nhw adael yr eglwys, ond gellir dweud yn y gwasanaeth y byddan nhw’n gallu mynd ag ef adref gyda nhw. Soniwch fod pawb yn gallu bod yn rhan o fywyd y plentyn, ble bynnag maen nhw’n byw a bydd y nod llyfr yn eu helpu i gofio. Mae’n eu hannog i weddïo.
Cofnodi’r atgofion
Mae ffilmio a thynnu lluniau ar achlysuron arbennig a rhannu’r eiliadau arbennig hyn gyda theulu ehangach a ffrindiau yn hollol naturiol i deuluoedd ifanc.
O fewn y gyfraith, byddwch mor hyblyg ag y gallwch chi fod ynghylch ffotograffiaeth a ffilmio.