Syniadau i annog pobl i gadw mewn cysylltiad â’r eglwys yn dilyn bedydd
Mae ymchwil yn dangos bod teuluoedd am i eglwysi gadw mewn cysylltiad â nhw a’u bod yn disgwyl hynny. Mae cysylltu â theuluoedd yn yr wythnosau a’r misoedd ar ôl gwasanaeth bedydd yn cael effaith wirioneddol gadarnhaol ar dwf eglwys. Dyma rai syniadau ar sut i wneud gwaith dilynol yn dda.
Mae pob math o sefydliadau’n sylweddoli bod cadw mewn cysylltiad â phobl yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn dychwelyd – boed i brynu, ymweld neu roi. Dydy’r eglwys ddim yn eithriad.
Drwy ymchwil ac adnoddau profi mae’n glir bod gwahodd dro ar ôl tro’n annog pobl i ddychwelyd i’r eglwys. Dyma rai syniadau ar gyfer gwaith dilynol ar ôl gwasanaeth bedydd.
Mae yna gyfleoedd drwy’r amser i wahodd teuluoedd yn ôl i’r eglwys:
- Ar ddiwrnod y bedydd gellir rhoi cerdyn gwahoddiad i’r teulu i’w gwahodd yn ôl i’r eglwys, efallai i’r Gwasanaeth Teuluol nesaf neu i Lan Llanast. Os mai gwasanaeth annibynnol yw’r bedydd, gellir gwahodd y teulu yn ôl i wasanaeth ar y Sul i gasglu’r dystysgrif, ac fel y gall teulu’r eglwys eu croesawu.
- Pan ddaw’r teulu i’r eglwys, gofalwch eich bod chi’n siarad â nhw ac yn eu croesawu’n gynnes.
- Anogwch rai o’r gynulleidfa i gadw llygad am y teulu a siarad â nhw. Yn ôl gwaith ymchwil, os yw teulu yn cyfarfod a chysylltu ag eraill yn y gynulleidfa, maen nhw’n fwy tebygol o ddychwelyd i’r eglwys.
- Os oes gennych chi arweinwyr sy’n gweithio gyda phlant, cofiwch eu hannog nhw i ddod i adnabod y teulu a gwahodd y plentyn i’r gweithgareddau hynny pan mae’n ddigon hen.
- Mae llawer o bobl angen rheswm i ddychwelyd i eglwys, felly gwahoddwch nhw i ddigwyddiadau sydd ar y gweill, fel gwasanaethau diolchgarwch, Cristingl, drama’r geni, y Nadolig, y Pasg a Sul y Mamau. Cofiwch ddyddiadau allweddol eraill yn y calendr cenedlaethol neu leol.
- Ceisiwch eu cael i gymryd rhan, er enghraifft, mae cael plentyn i gymryd rhan yn nrama’r geni yn ffordd o annog llawer o deulu a ffrindiau’r plentyn i ddod i’r eglwys i’w weld.
- Mae ffilmio a thynnu lluniau o achlysuron arbennig yn hollol naturiol i deuluoedd ifanc, felly byddwch mor hyblyg ag y gallwch chi gyda ffilmio a ffotograffiaeth gan gadw o fewn y gyfraith.
- Wrth i dechnoleg garlamu yn ei blaen, mae’n dod yn haws cadw mewn cysylltiad. Beth am ddefnyddio Twitter a Facebook i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd? Gellir anfon gwahoddiadau i wasanaethau arbennig ar y rhain hefyd.
- Mae blwyddyn wedi’r bedydd yn gyfle naturiol arall i gysylltu. Efallai eich bod chi’n defnyddio cardiau pen-blwydd Undeb y Mamau eisoes i atgoffa teulu am fedydd eu plentyn.
- Gwahoddiadau dro ar ôl tro sy’n gweithio orau – gall gymryd sawl gwahoddiad i annog teulu i ddod, gan na fydd pob dyddiad yn bosibl iddyn nhw. Mae gwahoddiadau gan eu teulu a’u ffrindiau yn effeithiol hefyd, felly os oes yna gysylltiadau gyda’r eglwys eisoes, gwnewch yn fawr ohonyn nhw.