Gwahodd teuluoedd i de prynhawn
Mae gwahodd teuluoedd dro ar ôl tro yn eu helpu i deimlo’n fwy o ran o’u heglwys leol. Byddwch yn barod i gynnal digwyddiadau yn ystod gwyliau’r ysgol pan fydd teuluoedd yn chwilio am rywbeth i’w wneud.
Mae te prynhawn i deuluoedd sydd newydd fedyddio eu plant yn syniad syml iawn. Gallech ei gynnal yn yr awyr agored os yw’r tywydd yn braf a bod gennych chi le, neu yn neuadd yr eglwys neu’r eglwys os nad yw’r tywydd cystal.
Bydd y rhan fwyaf yn gwerthfawrogi ychydig o fyrddau a chadeiriau, teganau i chwarae gyda nhw, te/coffi, digon o ddiodydd oren/dŵr a sgons jam a bydd hyn yn dod â theuluoedd ynghyd. Mae’n gyfle gwych hefyd i bobl yr eglwys ddod i adnabod y teuluoedd yn well, meithrin perthynas â nhw a’u gwahodd yn ôl i ddigwyddiad neu wasanaeth arall.
Gallech gynnwys gweddi mewn ffordd naturiol a hamddenol, er enghraifft gadael slip gweddi ar bob bwrdd gyda rhai geiriau syml fel: “Diolch i ti Dduw am fwyd, am deulu, ac am ffrindiau. Amen”.