Cadw mewn cysylltiad â theuluoedd a rhieni bedydd drwy e-bost
Rwy’n casglu (gyda chaniatâd!) cyfeiriadau e-bost rhieni a rhieni bedydd pan fyddaf yn trefnu bedydd. Yna, rwy’n anfon e-bost at y rhieni bedydd cyn y bedydd, yn eu llongyfarch ac yn anfon copi o daflen y gwasanaeth. Rwy’n cael adborth cadarnhaol iawn gan nifer o rieni bedydd yn dilyn hyn – mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n arbennig, ac yn gadael iddyn nhw ofyn cwestiynau i mi’n uniongyrchol. Gan fod llawer ohonyn nhw’n byw yn bell i ffwrdd, mae’n anodd iawn iddyn nhw ddod i’r sesiwn baratoi rwy’n ei chynnal gyda’r rhieni, ond mae hyn yn eu cynnwys ac yn eu hannog i feddwl am yr addewidion maen nhw’n eu gwneud.
Yna, rwy’n ychwanegu eu henwau ynghyd ag enwau’r rhieni i restr ddosbarthu rwy’n ei defnyddio i anfon e-byst atgoffa cyn sesiynau Llan Llanast neu ddigwyddiadau a gwasanaethau eraill a allai apelio at deuluoedd - hwyrach yr hoffai rhiant bedydd ddod â phlentyn i sesiwn Llan Llanast fel ffordd o feithrin perthynas ag ef.
O dro i dro, byddaf yn anfon e-byst gyda syniadau syml ar gyfer gweddïo gyda phlant a meithrin eu twf ysbrydol. Er enghraifft, yn ystod yr Adfent awgrymodd fy e-bost y gallen nhw wneud neu brynu preseb i’w ddefnyddio gartref, a defnyddio calendr Adfent gyda stori’r Nadolig ynddo. Awgrymodd e-bost y Pasg ffyrdd o wneud gardd Basg gartref.
Cafwyd adborth penodol ar yr e-byst hyn, ond un o’r effeithiau gwerthfawr yw bod teuluoedd nad ydyn nhw’n dechrau dod i’r eglwys yn rheolaidd yn syth ar ôl y bedydd yn dal i deimlo “mewn cysylltiad” ac yn rhan o’r teulu, fel ei bod hi’n llawer haws iddyn nhw wedyn ymgysylltu â’r eglwys yn y dyfodol.
Yn naturiol, mae’n bwysig dweud wrth eich cysylltiadau sut rydych chi’n bwriadu defnyddio eu cyfeiriadau e-bost a sut i optio allan o dderbyn e-byst os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Gall nodyn syml ar ddiwedd pob neges e-bost gynnwys y manylion hyn. Ac wrth anfon e-bost, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi’r holl gyfeiriadau e-bost yn y bocs BCC fel nad yw pawb yn eu gweld.
Anne Le Bas