Syniadau ar gadw mewn cysylltiad: Parti Crempogau
Mae anfon gwahoddiadau cyson yn helpu teuluoedd i fod yn fwy o ran o’u heglwys leol.
Ac mae yna gymaint o gyfleoedd yn ystod y gwyliau ac ar adegau gŵyl eraill i gynnal digwyddiadau nad oes rhaid iddyn nhw fod mewn lleoliad eglwys/addoliad – digwyddiadau sy’n galluogi eglwysi i gysylltu â theuluoedd a fydd yn chwilio am bethau i’w gwneud.
Mae parti crempogau i deuluoedd plant sydd newydd eu bedyddio yn un enghraifft. Os oes gan eich neuadd eglwys gegin, bydd oedolion a phlant wrth eu bodd â chrempogau cartref, neu gallwch brynu rhai parod.
Gwahoddwch blant a gafodd eu bedyddio y llynedd – gallwch wneud hyn drwy e-bost, neu drwy anfon cerdyn gwahoddiad arbennig.
Bydd y rhan fwyaf yn mwynhau digwyddiad sy’n cynnwys ychydig o fyrddau a chadeiriau, teganau, te/coffi, digonedd o ddiod oren/dŵr a thopins syml fel surop, sudd lemwn, jam a phast siocled o bosibl, a bydd yn gyfle heb ei ail i ddod â theuluoedd lleol ynghyd.
Gallech gynnwys gweddi neu sgwrs fer iawn am ystyr diwrnod crempog. Cadwch y cyfan yn ysgafn. Er enghraifft. gallech adael slip gweddi ar bob bwrdd yn cynnwys brawddeg fach syml: “Diolch Dduw am fwyd, a theulu, a ffrindiau. Amen.”
Mae’n gyfle gwych i bobl yr eglwys ddod i adnabod y teuluoedd hyn yn well hefyd, i feithrin perthynas a’u gwahodd yn ôl i ddigwyddiad neu wasanaeth arall. Byddai’n adeg berffaith i sôn wrthyn nhw am wasanaeth Sul y Pasg, a pha weithgareddau sydd ar y gweill yn yr eglwys yr adeg honno.