Creu a meithrin cysylltiadau
Waeth a ydych chi’n byw mewn tref fawr, maestref neu bentref gwledig, efallai fod yna lefydd lle mae teuluoedd â phlant ifanc yn ymgasglu. Boed yn blentyn cyntaf neu’ch ychwanegiad newydd at deulu sy’n tyfu, mae’r ymchwil yn dangos bod rhieni’n pryderu am y dyfodol, yn poeni am gyfrifoldeb ac yn dymuno’r gorau i’w plentyn. Dyma rai syniadau i helpu teuluoedd i ddarganfod mwy am sut mae’r eglwys yn lle croesawgar iddyn nhw.
Cyfarfod teuluoedd
Gall dysgu am fedydd fod yn un o’r ffyrdd a ddaw â theulu i gysylltiad â’r eglwys, felly mae sicrhau bod cyhoeddusrwydd da ar gael yn bwysig. Mae taflen ar gael i helpu teuluoedd i ddysgu beth allai bedydd ei olygu iddyn nhw (y ddwy ochr i’w gweld isod – mae’n plygu ar ffurf croes). Gellir gadael y daflen mewn llefydd fel:
- Cylchoedd rhiant a phlentyn
- Llyfrgelloedd
- Meddygfeydd
- Meithrinfeydd
- Clinigau galw i mewn gofal iechyd i fabanod
Mae rhoi manylion cyswllt yr eglwys ar gefn y daflen yn helpu rhieni i ddod i gysylltiad, ac yn eich helpu chi i fonitro ble mae’r daflen yn gweithio orau. Gofynnwch i’r sawl sy’n cysylltu â chi ymhle wnaethon nhw glywed amdanoch chi.
Ewch i wefan y Church Print Hub i weld mwy o fanylion ac er mwyn prynu’r daflen hon.
Yr ymweliad neu’r alwad ffôn gyntaf
Beth bynnag fo’r achlysur, mae cyfarfod pobl am y tro cyntaf bob amser yn hollbwysig, gan fod argraffiadau cyntaf yn rhai sy’n para. Mae cynhesrwydd, croeso a derbyniad yn cael effaith fawr ar deuluoedd – fydd rhai ohonyn nhw ddim yn gyfarwydd ag eglwys a ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan fyddan nhw’n holi ynglŷn â bedyddio eu plentyn.
- Os ydyn nhw’n cysylltu dros y ffôn ac yn gadael neges, bydd dychwelyd yr alwad cyn gynted â phosib yn rhoi sicrwydd iddyn nhw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo bod rhywun yn malio amdanyn nhw. Cofiwch eu llongyfarch ac os ydyn nhw’n defnyddio’r gair ‘christening’ yn Saesneg, manteisiwch ar y cyfle i sôn am ‘baptism’ gyda nhw.
- Gofynnwch iddyn nhw sut gwnaethon nhw glywed amdanoch chi a gofynnwch iddyn nhw amdanyn nhw eu hunain a’u plentyn. Trefnwch i’w cyfarfod yn fuan i ddod i’w hadnabod yn well.
- Cadwch lygad am deuluoedd newydd â phlentyn yn eich gwasanaethau. Mae’r ffaith bod pobl yr eglwys, yn cynnwys y ficer, yn sylwi ac yn siarad â nhw’n gwneud i bobl newydd deimlo bod croeso iddyn nhw, felly gwnewch yn siŵr bod hyn yn digwydd. Os ydyn nhw’n sôn am fedydd, byddwch yn frwdfrydig. Trefnwch i’w cyfarfod yn fuan.
- Mae’r ymchwil yn dangos yn glir bod teuluoedd sy’n creu cysylltiadau ag eraill yn yr eglwys yn llawer mwy tebygol o ddychwelyd. Anogwch bobl gyfeillgar yn y gynulleidfa i gyflwyno eu hunain i’r rhieni a’r plentyn, ac i ddod i’w hadnabod rhywfaint. Dyma fydd y cam cyntaf o helpu rhieni i gyfarfod a gwerthfawrogi cariad a chefnogaeth teulu’r eglwys.
- Ewch ati i feithrin cyfeillgarwch, drwy rannu gwahoddiadau personol i ddigwyddiadau’r eglwys, cylchoedd plant bach, taith gerdded yn y parc neu i gyfarfod am baned.
Y cyfarfod cyntaf
Mae’n bwysig bod y teulu’n parhau i deimlo’r croeso yn y cyfarfod hwn. Fe fyddan nhw’n gwerthfawrogi trafodaeth ar:
- A fydd y gwasanaeth yn rhan o wasanaeth arferol y Sul neu’n wasanaeth ar ei ben ei hun. Soniwch am fanteision cael y gwasanaeth fel rhan o wasanaeth arferol y Sul, ond peidiwch â’u beirniadu os ydyn nhw’n dewis gwasanaeth annibynnol.
- Rhieni bedydd - gofynnwch a ydyn nhw wedi penderfynu faint a phwy hoffen nhw ei gael, gan gynnig cyngor ar y gofynion os oes angen. Dylech gydnabod y dylen nhw fod yn bobl arbennig iawn i gael eu dewis i fod yn rhieni bedydd.
- Cyffyrddiadau personol yn y gwasanaeth. Os bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth, ceisiwch gynnwys emyn a ddewiswyd gan y teulu, neu os nad yw hynny’n bosibl, darlleniad neu weddi y gofynnwyd amdano. Bydd cynnwys teuluoedd yn y gwasanaeth yn eu helpu i deimlo mai eu gwasanaeth nhw yw e, yn eu heglwys nhw. Mae’r ymdeimlad hwn o berchnogaeth yn sylfaen dda i annog y teulu i ddychwelyd i’w heglwys ar ôl y gwasanaeth.
- Casglwch holl enwau a manylion cyswllt y rhieni, y plentyn a’r rhieni bedydd er mwyn gallu cysylltu â nhw eto. Ar y pwynt hwn, gofynnwch am ganiatâd y teulu i gadw mewn cysylltiad. Maen nhw’n debygol o roi eu caniatâd.
- Gofynnwch i’r rhieni pam maen nhw am fedyddio eu plentyn a gwrandewch yn astud ar eu hateb. Efallai y bydd hyn yn arwain at drafodaeth ddyfnach.
- Gwahoddwch nhw i baratoi yn y ffordd arferol sy’n cael ei chynnig yn eich eglwys a cheisiwch gynnwys y rhieni bedydd lle bo’n bosibl.
C in W version required
Mae taflen ar gael i gefnogi’r sgwrs gychwynnol hon â’r teulu, ac i’w hatgoffa o rai o’r pethau yr hoffech eu trafod gyda nhw. Gall rhieni fynd â’r daflen hon gyda nhw a’i chadw. Gweler llun y ddwy ochr ar y chwith.
Cynnwys y gynulleidfa arferol
C in W version required
Dydy’r berthynas rhwng y gynulleidfa arferol a’r teulu newydd sydd am fedyddio eu plentyn ddim yn un hawdd bob amser. Un ffordd o bontio’r bwlch yw drwy gynnwys y gynulleidfa wrth weddïo dros deuluoedd bedydd yn yr wythnosau sy’n arwain at ddiwrnod y bedydd.