Gwefan newydd i helpu teuluoedd i ddatblygu ffydd eu plant
Mae yna wefan newydd o’r enw ‘Parenting for Faith’ sydd wedi’i chynllunio i helpu rhieni, gofalwyr, teuluoedd estynedig a’u heglwysi i ddatblygu ‘perthynas ddwy ffordd fywiog a pharhaus gyda Duw’.
Mae’n cynnwys llawer o adnoddau, yn cynnwys fideo, deunydd sain ac erthyglau i’w defnyddio gartref ac yn yr eglwys. Mae yna bethau ar gyfer rhieni a gofalwyr, rhieni bedydd, teuluoedd estynedig, arweinwyr eglwysi a gweithwyr plant ac ieuenctid.
Mae yna gwrs fideo Parenting for Faith ar gael am ddim hefyd.
Ewch i’r wefan: https://parentingforfaith.org/