Annog teuluoedd bedydd i gymryd rhan yng ngwasanaethau Diolchgarwch
Mae gwasanaethau Diolchgarwch yn denu rhai o gynulleidfaoedd mwyaf y flwyddyn. Mae’n gyfle allweddol arall i gysylltu eto â theuluoedd sydd wedi bedyddio eu plant yn ddiweddar, a chyda’r gymuned ehangach. Dyma rai syniadau i ymestyn eich croeso a chynllunio gwasanaeth.
Mae Diolchgarwch neu ŵyl y Cynhaeaf yn un o’r adegau arbennig yng nghalendr yr eglwys, gyda llawer yn mynychu’r eglwys.
Ond ychwanegiad cymharol ddiweddar at y cylch addoli blynyddol yw hwn. Mae ei darddiad yn dyddio’n ôl i Oes Fictoria, pan fyddai’r eglwys a’r gymuned leol yn dod at ei gilydd i ddathlu darpariaeth Duw ar eu cyfer. Yn draddodiadol, ac yn enwedig efallai mewn cymunedau gwledig, Diolchgarwch yw’r adeg pan fo’r eglwys yn cael ei haddurno’n ysblennydd i ddathlu helaethrwydd creadigaeth Duw.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae gwasanaethau Diolchgarwch wedi dechrau uniaethu â phryderon mwy cyfoes.
Mae eglwysi wedi dechrau defnyddio themâu’r Diolchgarwch i feddwl am stiwardiaeth y ddaear, gan herio pawb i feddwl am bryderon amgylcheddol. Ochr yn ochr â rhoddion o faros a thatws a bara, mae yna gasgliadau o duniau a phecynnau a nwyddau cartref i rannu gyda banciau bwyd a sefydliadau i’r digartref.
Mae ysgolion eglwysig ac ysgolion eraill, ynghyd â grwpiau cymunedol ac elusennau cenedlaethol fel Traidcraft, yn cynhyrchu adnoddau i gysylltu adeg Diolchgarwch â chodi arian ac ymwybyddiaeth yn aml. Gall yr adnoddau hyn fod yn gymorth mawr i eglwysi wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer eu gwasanaethau Diolchgarwch.
Mae’n amser gwych i gysylltu â theuluoedd, yn enwedig y rhai sydd wedi dechrau ar daith ffydd anhygoel adeg bedydd. Mae’n amser i feddwl am ddiolch a diolchgarwch, ac yn amser i feddwl am dosturi a chyfiawnder yn ogystal â chydnabod cariad hael Duw yn ei greadigaeth.
Rhoi cyhoeddusrwydd i Wasanaeth Diolchgarwch
Gallwch lawrlwytho’r Erthyglau yma am ddim a’u defnyddio yn eich cylchgrawn plwyf. Gellir golygu’r testun mewn coch fel y gallwch ychwanegu eich manylion eich hun am wasanaethau Diolchgarwch sydd i ddod.
- Saying thank you for food – adnodd gan Eglwys Loegr sydd ar gael i’w lawrlwytho https://churchsupporthub.org/wp-content/uploads/2018/07/Saying-Thank-You-for-Food.pdf
- Learning to say ‘thank you’ – adnodd gan Eglwys Loegr sydd ar gael i’w lawrlwytho https://churchsupporthub.org/wp-content/uploads/2018/07/Learning-tosay-thank-you.pdf
Ar gyfer Gwasanaeth Diolchgarwch
- Dyma enghraifft o Wasanaeth Diolchgarwch i Bob Oed sy’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer gweddi a sgwrs. Mae’n dod o Festivals Together; creating all-age worship through the year, gan y Parch Sandra Millar ISBN 978-0-281-06631-5, cyhoeddwyd gan SPCK. Cliciwch yma https://churchsupporthub.org/harvest.php
Adnoddau gan elusennau
- Gall adnoddau Cymorth Cristnogol eich helpu i ganolbwyntio ar thema lleihau tlodi.
- Mae Just Finance Foundation y Church Urban Fund yn ymgyrchu ar ran y rhai sy’n cael trafferthion ariannol ac yn cynnig pecyn adnoddau ar gyfer ei Apêl Hedyn Mwstard. I gael rhagor o wybodaeth a lawrlwytho pecyn adnoddau, gweler y tudalennau gwe ar yr Hedyn Mwstard.
- Mae’r elusen ymgyrchu yn erbyn tlodi Tearfund yn cynnig nifer o becynnau adnoddau diolchgarwch ar-lein, yn cynnwys fideos o weddïau.