Syniadau dilynol i annog teuluoedd bedydd ar Sul y Mamau
Mae cardiau ac anrhegion Sul y Mamau’n mynd ar werth ymhell ymlaen llaw. Mae gwestai, bwytai a chaffis yn hyrwyddo eu bwydlenni arbennig. Y nod yw dathlu a sbwylio cenedlaethau o famau, ond gall y diwrnod ei hun ennyn emosiynau cymysg. Gall fod yn ddiwrnod llawen, cymhleth neu’n llawn tristwch, ond does dim dwywaith fod Sul y Mamau – a’r paratoi ar ei gyfer – yn ddiwrnod mawr i deuluoedd, felly cysylltwch â nhw i adael iddyn nhw wybod bod yr eglwys leol yno iddyn nhw, boed law neu hindda yn eu bywydau. Dyma rai syniadau i helpu:
Cynnwys teuluoedd cyn Sul y Mamau
- Beth i alw’r diwrnod? Mae’r eglwys yn ei alw’n ‘Mothering Sunday’ yn Saesneg ond bydd pob man arall yn dweud ‘Mother’s Day’ – gyda Sul y Mamau’n gweithio yn y Gymraeg doed a ddel. Meddyliwch am ddefnyddio’r ddau derm yn Saesneg, ond efallai y gallech chi ddefnyddio ‘Mothering Sunday’ ar gyfer gwasanaeth neu ofod ar gyfer cofio, colled a thrallod, a chadw ‘Mother’s Day’ ar gyfer y pethau hynny sy’n cynnwys sbwylio mamau a diolch iddyn nhw. Cofiwch am y rheini hefyd sydd efallai ddim yn fam iawn i ni, ond sy’n gwneud pethau ‘mamol’!
- Yn yr wythnosau sy’n arwain at Sul y Mamau, hwyrach y bydd gweithgareddau’r Ysgol Sul, cylchoedd rhiant a phlentyn neu’r ysgol gynradd leol yn paratoi rhywbeth fel rhan o’u thema ar gyfer Sul y Mamau. Gellir defnyddio bynting plaen ar gyfer pob math o bethau a gellir tynnu llun arnyn nhw neu eu lliwio. Gallai plant dynnu llun o’u mam ar faner, neu ychwanegu gweddi iddi, neu wneud print o’u llaw gydag addewid i roi help llaw i Mam - mae’n siŵr bod gennych chi lond trol o syniadau gwych hefyd.
- Efallai y gall plant wneud tuswon i’w rhannu yng ngwasanaeth Sul y Mamau.
- I’r rheini y mae’r diwrnod yn anodd iddyn nhw, boed oherwydd galar, gwahanu neu am eu bod yn difaru gwneud neu beidio gwneud rhai pethau, cynigiwch le iddyn nhw fyfyrio a gweddïo, hyd yn oed pan na fyddan nhw’n dod i’r gwasanaeth Sul y Mamau. Mae cerdyn syml sy’n gadael iddyn nhw wybod eich bod chi’n meddwl amdanyn nhw, neu’n dweud y bydd yr eglwys ar agor fel y gallan nhw ddod i oleuo cannwyll i’w Mam ar ddiwrnod penodol, i gyd yn ffyrdd syml iawn i gefnogi pobl sy’n galaru ar adeg Sul y Mamau.
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r diwrnod
- Yn ogystal â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch gwasanaeth Sul y Mamau yn y plwyf, ceisiwch anfon gwahoddiad personol penodol i deuluoedd sydd wedi trefnu gwasanaeth bedydd gyda chi yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gallwch wneud hyn drwy’r post, dros yr e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol - neu drwy ddefnyddio cyfuniad o’r tri!
- Gallwch wahodd teuluoedd sydd wedi bedyddio plant yn y 6-12 mis diwethaf hefyd, fel rhan o’u taith barhaus.
Ar y diwrnod
Gellir defnyddio’r weddi syml hon yn ystod y gwasanaeth i gynnwys pawb. Gallwch ei defnyddio mewn gwasanaethau ysgol hefyd.
- Rhowch law ar eich calon a gweddïwch: ‘Diolch i ti Dduw, dy fod ti’n caru pob un ohonom’.
- Lapiwch eich breichiau o’ch amgylch eich hun a gweddïwch: ‘Diolch i ti Dduw am gariad mamau, ddoe a heddiw, ac sydd eto i ddod’.
- Gwnewch ‘siâp to’ gyda blaenau’ch bysedd yn cyffwrdd a gweddïwch: ‘Diolch i ti Dduw am gartrefi a rho gymorth i’r rhai sydd ddim yn teimlo’n ddiogel heddiw’.
- Symudwch fysedd y ddwy law yn ôl ac ymlaen a gweddïwch: ‘Diolch i ti Dduw am yr holl bobl sy’n gweithio i ofalu amdanom bob dydd’.
- Croeswch flaenau eich breichiau neu eich mynegfysedd i wneud siâp croes a gweddïwch: ‘Cadwa ni’n agos at dy gariad bob dydd’
Amen.
- Mae gwneud lle i’r rhai a allai fod yn teimlo’n drist yn bwysig. Gallech ofyn i bobl oleuo cannwyll wrth iddyn nhw ddychwelyd i’w seddau ar ôl cael cymun. Mae Sul y Mamau yn ei hanfod yn ddiwrnod gwirioneddol lawen felly bydd llawer o bobl sy’n ei chael hi’n anodd yn gwerthfawrogi’r ffaith fod yr eglwys wedi cofio amdanyn nhw.