Cyfleoedd Dilynol: Yn ôl i’r ysgol
Mae mis Medi yn amser arwyddocaol iawn i deuluoedd â phlant. Hwyrach y bydd plant ifanc iawn yn dechrau yn yr ysgol feithrin, ac mae’n bosib y bydd y rhai hŷn yn dechrau yn yr ysgol neu’n symud dosbarth. Mae’n gyfle gwych i’r eglwys gadw mewn cysylltiad â theuluoedd sydd wedi bedyddio eu plant yn yr eglwys a dangos cefnogaeth barhaus iddyn nhw wrth i’w plant dyfu.
Mae ysgolion, meithrinfeydd a cholegau’n cael effaith fawr ar gymunedau lleol. Mae mis Medi yn gyfle gwych i ddangos cefnogaeth yr eglwys ar adeg o gychwyn newydd a newid, sy’n gyfnod o bryder a chyffro yn aml. Yma fe gewch syniadau ar gysylltu â theuluoedd ac eraill sy’n cael eu heffeithio gan ddechrau blwyddyn academaidd newydd.
Syniadau
- Mae’r wythnos cyn i’r tymor ysgol newydd gychwyn yn gyfle i gynnal gwasanaeth i gynnig bendith ‘mynd yn ôl i’r ysgol’. Gall gweddïau gynnwys pawb sydd wedi’u heffeithio gan y flwyddyn academaidd newydd; rhieni, athrawon, disgyblion, myfyrwyr, yn ogystal â meithrinfeydd.
- Mae’r syniad hwn yn atgoffa pobl bod Duw gyda ni bob amser: rhowch label cês i’r rhai sy’n bresennol yn y gwasanaeth gyda bendith arbennig arno, y gellir ei roi mewn bagiau ysgol ac ati ar ddiwrnod cyntaf yr ysgol.
- Os ydych chi’n hoffi’r syniad o label cês, gellir ei ddefnyddio mewn sgwrs yng ngwasanaeth yr ysgol hefyd.
- Gall athrawon, staff cymorth ac eraill y mae eu gwaith yn mynd â nhw i ysgolion roi cerdyn bendith mewn poced/waled NEU gael calon (e.e. ar ffurf carreg, templed pren, cerdyn rhodd ac ati) a’i rhoi rhywle yn eu lle gwaith/cyfarpar. Bob tro y bydd yn cael ei gweld, bydd yn dwyn i gof cariad Duw a’i gariad dros bawb yn yr ysgol/coleg/meithrinfa.
- Mae’r awgrym gwasanaeth hwn o wefan Bible Assemblies yn wych ar gyfer dechreuadau newydd ac amser o newid.
- Gellir defnyddio coed gweddi at ddibenion gwahanol ac fel ffordd arall o gynnwys pawb sy’n bresennol mewn gwasanaeth i weddïo dros rywun maen nhw’n ei nabod sy’n cychwyn neu’n symud dosbarth yn yr ysgol feithrin/ysgol/coleg. Gall y rhai sy’n gweithio mewn meithrinfeydd, ysgolion, colegau neu leoliadau addysgol eraill ddefnyddio’r weddi hon iddyn nhw eu hunain. Gellid ei rhoi ar ffurf cerdyn/slip gweddi bychan, neu gellir e-bostio’r weddi.
Dduw doeth,
Rho i mi lawenydd wrth i mi ddechrau gweithio yn y flwyddyn ysgol hon;
Rho i mi gariad ar gyfer y rhai y byddaf yn eu cyfarfod,
Rho i mi obaith ar gyfer y rhai y byddaf yn effeithio ar eu dyfodol,
Rho i mi gryfder ar gyfer pob dydd
A gad i mi wybod dy fod ti wrth fy ymyl.
Amen.
- Drwy newid y geiriau o’r unigol i’r lluosog gallwch ddefnyddio’r weddi uchod i weddïo dros eraill, neu gall gweithwyr addysgu proffesiynol ei defnyddio i weddïo dros eu cydweithwyr neu fyfyrwyr.