Syniadau am ofalu a chynnwys teuluoedd galar drwy’r haf
Gall cadw mewn cysylltiad a mynd allan fod yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n ymdopi â cholli rhywun annwyl, yn enwedig y rhai sydd wedi’u gadael ar eu pen eu hunain. Dyma rai enghreifftiau o ffyrdd o’u cefnogi.
Ni fydd pawb sy’n galaru yn teimlo fel mynd allan, yn enwedig yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl angladd. Serch hynny, mae cadw mewn cysylltiad â phobl sy’n galaru i roi gwybod bod eu heglwys yn meddwl amdanyn nhw yn gysur ynddo’i hun.
Gallwch eu gwahodd i’ch digwyddiadau haf, gan gynnig cyfeillgarwch a chyfle i siarad ag eraill. Os ydyn nhw’n penderfynu ymuno mae’n gyfle gwych i ddangos cariad a gofal yr eglwys iddyn nhw.
Syniadau
- Gall gwyliau blodau fod yn gyfle hyfryd i gofio. Gellir defnyddio blodau ag ystyr iddyn nhw, fel blodau gleision. Gadewch bentwr o ddarnau papur bach plaen neu liw ger arddangosfa arbennig fel y gall pobl ysgrifennu enwau eu hanwyliaid arnyn nhw a’u gosod ymysg y blodau. Mae’r arddangosfa arbennig hon o gofio yn gyfle i wahodd pobl sy’n galaru i eiliad benodol o gofio fel rhan o ddigwyddiad ehangach.
- Mae GraveTalk <https://churchsupporthub.org/article/gravetalk/> yn adnodd i helpu pobl i siarad am farwolaeth, marw ac angladdau. Gellir ei gynnal unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn yr haf, gallai te hufen neu ddigwyddiad diodydd oer a hufen iâ weithio’n dda. Gallech hyd yn oed ystyried cynnal un yn yr awyr agored, cyn belled na fyddai pobl nad ydyn nhw’n cymryd rhan yn gallu clywed y sgyrsiau.
- Yn aml bydd pobl yn dod i fynwent yn amlach dros yr haf, naill ai i ymweld â bedd neu oherwydd eu bod yn pasio heibio ar daith gerdded. Gwnewch yn siŵr bod y fynwent yn cael ei chynnal a’i chadw’n rheolaidd fel ei bod yn dwt ac yn edrych ar ei gorau. Mae rhai eglwysi’n cynnig neges groeso neu weddi ar y giât y bydd pobl yn ei gweld wrth ddod i’r fynwent.
- Gallech gynnig eglwys agored ar ddiwrnod penodol yn yr haf, dim ond ar gyfer cofio, a chyhoeddi hyn. Os oes tîm bugeiliol ar gael i gynnig diodydd oer a gweddïo gyda phobl os hoffen nhw hynny, bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu gan wyneb cyfeillgar yn lle eglwys wag. Yn ogystal â chael canhwyllau i’w goleuo, gallech gynnig llyfr lloffion i ymwelwyr y gallan nhw ysgrifennu neu roi lluniau ynddo. Gofynnwch iddyn nhw gofnodi eu hatgofion haf hapusaf am eu hanwyliaid yn y llyfr. Gellir ei adael am ychydig wythnosau fel y gall pawb edrych arno wedyn a bydd yn ffordd o atgoffa pawb, er ein bod ni’n colli ein hanwyliaid, y gallwn gofio amseroedd hapus gyda nhw yn y byd hwn, ac edrych ymlaen at amseroedd hapus eto yn y byd nesaf.
- Ffordd arall o gofio yw drwy ddynodi coeden yn y fynwent yn Goeden Gofio i bawb yn y plwyf. Gellir gwahodd teuluoedd sy’n galaru i adael blodau yno pryd bynnag maen nhw eisiau. Gellir rhoi geiriau o gysur ar y goeden, ar blac bychan er enghraifft. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol i’r rhai y mae eu hanwyliaid wedi’u claddu ymhell i ffwrdd ond sydd am gael rhywle i fynd i gofio amdanyn nhw ar ben-blwyddi ac achlysuron arbennig.
- Anfonwch gerdyn ar y diwrnod y bu farw’r unigolyn i roi gwybod i deuluoedd eich bod yn cofio amdanyn nhw. Mae caredigrwydd o’r fath yn cael effaith fawr.