Syniadau i gysylltu â theuluoedd bedydd drwy’r haf
Gyda’r diwrnodau’n ymestyn a’r ysgolion wedi cau, mae yna gyfleoedd di-ri i rieni fynd allan a threulio amser gyda'u plant. Gall yr eglwys gynnig gweithgareddau i helpu teuluoedd i ddarganfod pethau newydd, cwrdd â phobl newydd, cael hwyl a chreu atgofion. Dyma rai ffyrdd i helpu:
Rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau
Efallai eich bod wedi trefnu rhaglen gyfan o syniadau fel clwb gwyliau, ffair haf, diwrnodau hwyl i’r teulu, cylchoedd plant bach a phicnic yr eglwys, ond mae angen dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod eich cysylltiadau bedydd yn clywed amdanyn nhw. Dyma ffyrdd syml o ledaenu’r neges.
- E-gylchlythyr - Mae teuluoedd wedi hen arfer derbyn diweddariadau e-bost gan sefydliadau a mannau eraill sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am gynigion a gweithgareddau. Mae teuluoedd yn agored i glywed gan eu heglwys leol hefyd ac mae’n gymharol hawdd dechrau e-gylchlythyr. Efallai fod gennych chi restr o gysylltiadau eisoes, a gallwch ychwanegu ati gyda phob bedydd y byddwch chi’n ei gynnal.
- Y cyfryngau cymdeithasol – Mae gan lawer o eglwysi eu tudalennau eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, Instagram a Snapchat. Efallai y gallai’r aelodau hynny sy’n dda am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn eich cynulleidfa gynnal cyfrif eich eglwys a phostio manylion digwyddiadau sydd ar y gweill, a sicrhau bod teuluoedd sy’n newydd fedyddio eu plant yn eich dilyn chi.
- Posteri – Mae posteri i hysbysebu eich digwyddiadau mawr fel eich ffair haf yn gweithio’n dda ar hysbysfyrddau cymunedol. Dylech gynnwys datganiad clir ar eich poster sy’n dweud bod ‘Croeso cynnes i bawb’. Defnyddiwch eich eglwys hefyd – os oes gennych chi hysbysfwrdd, rhowch bosteri cyfredol, lliwgar arno fel bod pobl yn eu gweld wrth fynd heibio.
- Tudalen digwyddiadau ar y we – Cofiwch roi gwybodaeth gyfredol ar eich tudalen ‘Digwyddiadau’. Bydd rhieni’n chwilio ar-lein am bethau i’w gwneud yn eu hardal, felly dylech ddiweddaru cynnwys gwefan y plwyf o leiaf unwaith yr wythnos.
- Ar lafar – Atgoffwch aelodau’r gynulleidfa i ledaenu’r gair am ddigwyddiadau i ddod.
Syniadau
Dyma ddetholiad o weithgareddau eglwysig y gellir eu cynnig unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond sy’n wych ar gyfer digwyddiadau canol wythnos gydol misoedd yr haf.
- Pwdin a Phampro i famau beichiog
- Adfywio ar brynhawniau Sul – syniad gwych i gael plant ifanc i feddwl am straeon o’r Beibl.
- Annog neiniau a theidiau – mae llawer o neiniau a theidiau’n gofalu am eu hwyrion yn ystod gwyliau’r haf neu yn ystod yr wythnos pan mae’r rhieni’n gweithio. Meddyliwch am ffyrdd o’u gwahodd a’u cynnwys yn yr eglwys. Gallai hyn fod yn gylch chwarae, neu’n de parti.