Syniadau i annog cyplau sy’n priodi neu newydd briodi i’r eglwys dros gyfnod y Nadolig
Mae’r Nadolig yn amser gwych i gysylltu â chyplau sydd ar fin priodi neu newydd briodi. Bydd lleoliadau eu gwledd briodas yn anfon cardiau atyn nhw ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau ar yr adeg hon, ac mae cyplau’n hoffi clywed gennym ninnau hefyd.
- Gall y Nadolig cyntaf fel pâr priod fod yn amser arbennig. Ceisiwch wahodd pawb a briododd yn eich eglwys chi eleni i wasanaeth Nadolig addas. Gall y rhai heb blant ddod i offeren ganol nos. Gall gwasanaethau Cristingl, Diwrnod Nadolig, y ffair Nadolig a’r gwasanaeth carolau fod yn addas i’r rhai sydd â phlant.
- Efallai eich bod mewn cysylltiad â llawer o gyplau gostegion hefyd - gwahoddwch nhw i’ch gwasanaethau Nadolig i roi blas iddyn nhw ar fywyd yr eglwys yn eu plwyf. Bydd canhwyllau a choed Nadolig yn ychwanegu naws cofiadwy, hudolus i’w heglwys arbennig, gan ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddan nhw’n derbyn gwahoddiad arall gennych chi y flwyddyn nesaf - i ddigwyddiad yn agos at ddydd San Ffolant efallai?