Syniadau i annog teuluoedd bedydd i’r eglwys adeg y Nadolig
Mae gwahoddiadau wedi’u targedu fel petaen nhw’n gweithio’n dda. Beth am wahodd eich teuluoedd bedydd i un digwyddiad yn unig? Mae ymchwil yn awgrymu mai gwasanaethau traddodiadol drama’r geni neu’r preseb yw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o ddenu teuluoedd bedydd, ond gall unrhyw rai o’r syniadau canlynol weithio’n dda hefyd.
Syniadau
- Efallai mai’r digwyddiad cyntaf yn eich calendr Nadolig fydd ffair – ac mae’n amser gwych i wahodd teuluoedd a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o gymuned yr eglwys. Mae’n lle da i blant bach a phlant hefyd – yn enwedig os oes gennych chi weithgareddau sy’n addas ar gyfer plant.
- Mae’r Adfent yn gyfle i ymuno â’r cyfrif i lawr – ac mae’n ein helpu i ddarganfod gwir ystyr y Nadolig mewn ffyrdd newydd. Beth am ddosbarthu sêr gwag yn yr ysgol neu mewn digwyddiadau eraill i annog y plant i ddod â nhw i’r eglwys a’u hongian ar goeden Nadolig yr eglwys.
- Gallech ystyried cynnwys teuluoedd mewn Posada – taith Mair a Joseff o amgylch y plwyf sy’n dod â phobl i gysylltiad â’i gilydd. Mae’r Posada yn ffordd arloesol arall o rannu stori’r Nadolig dros gyfnod yr Adfent.
- Gellid defnyddio’r holl ddeunydd sy’n rhan o’r ‘Real Advent Calendar’ mewn amrywiol ffyrdd i helpu i rannu stori’r Nadolig - gan eu defnyddio fel rhoddion/pethau i’w rhannu mewn ffeiriau, ysgolion Sul, cylchoedd plant bach neu ble bynnag y byddwch chi’n cyfarfod teuluoedd â phlant ifanc. Dyma syniad am weddi cyfrif lawr at y Nadolig yn defnyddio’r cymeriadau o ddrama’r geni, yma