Syniadau i annog teuluoedd bedydd adeg calan gaeaf
Mae’r 31ain o Hydref wedi troi’n ddathliad arwyddocaol i deuluoedd. Mae’r gwisgoedd dychrynllyd a’r arfer o fynd allan i ddychryn pobl a chasglu danteithion yma i aros, ond gall eglwysi gysylltu â theuluoedd a chynnig rhywbeth amgen i gefnogi eu taith ffydd. Mae’n gyfle i siarad am ddaioni a drygioni a’r gobaith Cristnogol o oleuni mewn byd tywyll. Dyma rai ffyrdd o gynnig neges gadarnhaol ar yr adeg hon.
Mae Gŵyl yr Holl Saint ar y 1af o Dachwedd yn llai perthnasol bellach yn ein diwylliant ni, ond gyda’r dylanwad masnachol, mae Noson Calan Gaeaf (Noswyl yr Holl Saint) ar y 31ain o Hydref wedi troi’n ddigwyddiad anferth i blant a theuluoedd.
A ddylai’r eglwys gael llais ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac os felly, sut gall gynnwys y cysylltiadau a wnaed drwy Digwyddiadau Bywyd?
- Mae Better than Halloween gan Nick Harding, sydd ar gael gan Church House Publishing, yn cynnig syniadau ar gyfer ymateb Cristnogol i Noson Calan Gaeaf ac yn cynnwys cyfeiriadau Beiblaidd priodol. Nodwch y gallwch ddarllen adran gyntaf y llyfr hwn am ddim drwy ei lawrlwytho o wefan Church House Publishing, ond rhaid prynu’r llyfr i gael y gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer plant 5-11 oed.
- Beth am gynnal diwrnod gweithgareddau i deuluoedd neu blant ar neu’n agos at Noson Calan Gaeaf. Gallwch gynnwys gweithgareddau traddodiadol fel cerfio pwmpen, ond efallai y gallech gael cystadleuaeth cynllunio ‘wyneb hapus’ yn lle wynebau pwmpen sy’n dychryn. Mae gan y Scripture Union dudalen adnoddau rhagorol ar eu gwefan ar gyfer cynnal parti goleuni.