Gwahodd pobl i Wasanaethau Cofio
Mae gwasanaethau ‘cofio’ yn denu rhai o’r cynulleidfaoedd mwyaf i’n heglwysi. Y newyddion da yw bod ymchwil yn dangos bod pobl am i’r eglwys gysylltu â nhw ar ôl angladd a’u bod yn gobeithio y bydd hynny’n digwydd. Dyma rai ffyrdd i’ch helpu i rannu neges o gysur a gobaith gyda mwy o bobl nag erioed.
Mae’r rhan fwyaf o eglwysi’n cynnal gwasanaethau o gwmpas Gŵyl yr Holl Saint sy’n gyfle i gofio’r rhai maen nhw’n eu caru ond nad ydyn nhw’n eu gweld mwyach, waeth a yw’r golled yn un ddiweddar neu’n sydd wedi digwydd ers amser maith. Mae’n gyfle hefyd i gefnogi a chynnal cysylltiad â theuluoedd galar waeth a ydyn nhw wedi cael angladd dan arweiniad yr Eglwys yng Nghymru ai peidio.
I’ch helpu gyda’r gwahoddiad:
- Fel rhan o’ch gweinidogaeth angladdau ehangach i deuluoedd galar rhowch wahoddiad iddyn nhw i wasanaeth Gŵyl yr Holl Saint neu ‘Gofio’ blynyddol.
- Mae’n bwysig cynnwys plant yn nhymor y cofio, felly cofiwch hyrwyddo’ch gwasanaethau i deuluoedd â phlant.
- Mae Noson Calan Gaeaf yn amser da i wahodd a chynnwys plant yng Ngŵyl yr Holl Saint hefyd. Gall y golygyddol am ddim hwn eich helpu chi i wneud hynny ac annog sgwrs am darddiad Noson Calan Gaeaf. Mae yna dudalen ar wahân sy’n edrych ar syniadau ar sut i gynnwys teuluoedd yn yr eglwys tua amser Noson Calan Gaeaf.
- Gall hwn fod yn gyfle da i greu partneriaeth ag ymgymerwr a grwpiau galar eraill yn lleol gan y byddan nhw am gynnig cymorth hirdymor i deuluoedd hefyd. Beth am fynd i siarad â nhw i weld a oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn dod draw a chymryd rhan mewn rhyw ffordd?
Yn y gwasanaeth
Dylech gynnwys y gynulleidfa gyfan mewn gweddïau mewn ffordd bersonol, er enghraifft:
- Blwch cofio ar gyfer gweddïau: darparwch bentwr o gardiau post fel bod pawb yn cael un - fe allan nhw fod yn lliwgar neu’n blaen. Hefyd, rhowch flwch cymharol fawr, deniadol yn y blaen. Gwahoddwch bobl i ysgrifennu ‘gweddi gofio’ fer ar eu cerdyn post i ddiolch i Dduw am yr atgofion arbennig sydd ganddyn nhw am berson maen nhw’n ei gofio heddiw – gan efallai nodi atgof arbennig o amseroedd da gyda nhw, neu nodi eu henw ar y cerdyn er mwyn cofio eu bywyd unigryw. Yna dylid postio’r cerdyn yn y blwch postio. Gellid chwarae cerddoriaeth addas pan fydd pobl yn gwneud hyn. Neu, yn lle defnyddio blwch postio, gellid gosod y cardiau ar ddangosfwrdd.
Mae llawer iawn o bobl ifanc a’u rhieni’n dod i wasanaethau Cofio drwy grwpiau fel y Sgowtiaid, Geidiau, Cybiau a Brownies, ynghyd â grwpiau milwrol. Mae’r sylw a roddir i ddathliadau cofio’r Rhyfel Mawr ar y cyfryngau, ymchwil i hanes lleol, a diddordeb personol wedi annog teuluoedd i nodi’r diwrnod hwn drwy fynychu gwasanaeth. Beth fydd eu profiad? Gwnewch y profiad yn un cofiadwy, a chynigiwch rywbeth iddyn nhw fel y byddan nhw am ddychwelyd.
- Gweddïau pabi: mae cynnwys pawb yn y weddi gan ddefnyddio’r symbol cyfarwydd hwn yn help i greu profiad cofiadwy. Mae’r pabi’n ffordd wych o wneud hyn.
Gwnewch eich gorau i sicrhau bod pawb yn cael neu’n cymryd pabi wrth iddyn nhw gyrraedd y gwasanaeth.
“Edrychwch ar eich pabi neu un rhywun sy’n eistedd wrth eich ymyl os nad oes gennych chi un. Mae’r pabi’n flodyn lliwgar a llawen: diolchwch i Dduw am fywydau’r rhai sydd wedi disgyn mewn rhyfel, gan gofio’r holl lawenydd a roddon nhw i’w teuluoedd a’u ffrindiau, a’r holl bethau da a wnaethon nhw i’w cartref a’u gwlad.
“Yna, edrychwch ar y petalau coch: mae coch yn ein hatgoffa o berygl a niwed. Gofynnwch i Dduw fod yn agos at y rhai sy’n dal i wynebu perygl bob dydd, i roi dewrder i’r lluoedd arfog, a thosturi i bawb sy’n helpu eraill.
“Gosodwch eich llaw gyfan dros y pabi: mae’r pabi’n fregus hefyd ac mae angen ei drafod yn dyner. Mae Duw’n gofalu am y rhai sy’n brifo ac sy’n drist. Gofynnwch i Dduw gysuro pawb sy’n galaru am rywun annwyl.
“Yn olaf, rhowch eich bys yng nghanol y pabi: gofynnwch i Dduw eich helpu chi i wneud eich rhan a gweithio i sicrhau heddwch yn y byd.”
- Cynigiwch rywbeth iddyn nhw fel y byddan nhw am ddychwelyd – pe bai pawb yn y gynulleidfa yn cael gwahoddiad i ddod i wasanaeth Nadolig, fel gwasanaeth y preseb er enghraifft, mae’n debygol y byddai rhai’n dod o leiaf. Mae estyn gwahoddiad i un digwyddiad penodol yn fwy effeithiol na gwneud cyhoeddiad cyffredinol am wasanaethau i ddod. Bydd cael cerdyn i fynd gyda nhw a’i roi ar yr oergell gartref yn atgoffa pobl o’r gwahoddiad.