Cefnogi’r rhai sy’n galaru dros gyfnod y Nadolig
Mae teuluoedd sy’n galaru ymhlith y rhai sydd angen cyswllt cefnogol ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Drwy gydnabod bod y Nadolig yn gallu bod yn amser anodd, gellir atgoffa’r teulu am ofal eu heglwys. Mae’r syniadau hyn gan glerigion prysur yn syml ond mae ganddyn nhw ffocws.
- Anfonwch gerdyn Nadolig i bob teulu rydych chi wedi cynnal angladd gyda nhw yn y flwyddyn i dair blynedd diwethaf. Dylech gynnwys manylion eich gwasanaethau Nadolig arferol ac unrhyw ddigwyddiadau cofio arbennig rydych chi’n eu cynnal.
- Byddwch yn ymwybodol o wasanaethau defnyddiol eraill a fydd yn cael eu cynnal yn lleol hefyd – mae’r rhan fwyaf o hosbisau’n cynnal gwasanaeth ‘Goleuo Bywyd’ yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn un o’r eglwysi lleol. Os nad yw’n rhywbeth sy’n cael ei gynnal yn eich eglwys chi, does dim rheswm o gwbl pam na fyddai’n ddefnyddiol i’ch cysylltiadau, felly soniwch wrthyn nhw amdano.
- Codwch y ffôn a ffoniwch rywun a allai fod angen sgwrs ‘sut ydych chi’ ar yr adeg anodd hon o’r flwyddyn.
- Dewiswch noson yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig i agor yr eglwys ar gyfer pobl sydd am ddod i mewn i gofio anwyliaid drwy oleuo cannwyll, neu trefnwch i’r eglwys fod ar agor dros gyfnod o amser ar gyfer hyn. Bydd hi’n haws i rai wneud hyn na mynychu digwyddiad penodol.
- Gall fod yn ddefnyddiol gwahodd pobl sy’n galaru i ddigwyddiadau sy’n dod â’r gymuned at ei gilydd, fel ffeiriau, i’w helpu i gadw mewn cysylltiad ag eraill. Gall hyn fod yn wir i bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
- Cofiwch anfon cerdyn Nadolig at yr Ymgymerwr – neu hyd yn oed fynd â siocledi neu fins peis iddyn nhw!
- Hwyrach y gallech chi drafod cynnig gwasanaeth byr cyn y Nadolig gyda’ch amlosgfa/mynwent/claddfa goetir leol? Weithiau maen nhw’n llefydd haws i bobl eu rheoli nag eglwys ac efallai y byddan nhw’n croesawu’r cyfle i gydweithio.
- Os yw eich eglwys yn cynnal grŵp cymorth galar efallai y gallech chi roi mwy o sylw i’w waith ym mis Rhagfyr.
- Un o’r pethau mae pobl sy’n galaru yn ei deimlo fwy na neb yn aml yw nad oes neb yn cydnabod eu hanwyliaid bellach: mae pobl yn ofni siarad amdanyn nhw. Efallai y gallai eich cynulleidfa gymryd rhan drwy feddwl am y rhai maen nhw’n eu hadnabod sy’n galaru ac anfon cof rodd bersonol er cof am y sawl a fu farw ar adeg y Nadolig - llun bach wedi’i fframio, neu rodd fechan sy’n cynrychioli rhywbeth arwyddocaol am y person a fu farw.