Gweddau
Gweddïau i deuluoedd â phlant cyn bedydd ac ar achlysuron eraill
Ar y noson cyn y bedydd
Annwyl Dduw,
Bydd gyda fy ffrindiau yfory – boed iddyn nhw ganfod llawenydd.
Bydd gyda fy nheulu yfory – boed iddyn nhw ganfod cariad.
Bydd gyda fi yfory – boed i fi ganfod heddwch.
Bydd gyda fy mhlentyn – boed iddo ganfod dy olau
Wrth iddo/iddi ddechrau ar ei d/thaith anhygoel o ffydd.
Tywys ef/hi ar y llwybr cywir,
Cadw ef/hi yn ddiogel
A’n helpu ni i gyd i wybod dy fod gyda ni,
Nawr ac yn oes oesoedd.
Amen
Cyn noswylio
Dduw Cariadlon,
Wrth i’r golau ddisgleirio yn ei y/hystafell,
Boed i’th olau ddisgleirio ar f’anwylyd bob amser.
Boed iddo/iddi gael bywyd diogel,
Gan adnabod dy gariad a’th ddaioni di.
Boed iddo’iddi fod yn olau i eraill,
Gan ddod â gobaith a llawenydd i ffrind a dieithryn.
Boed iddo/iddi wybod dy fod wastad yno
I dywys, arwain a diogelu.
Ar ôl diwrnod anodd
Annwyl Dduw,
Weithiau mae bywyd yn dda ond weithiau mae’n anodd.
Helpa ni i wybod dy fod yno gyda ni drwy’r cyfan.
Am bopeth rydym ni wedi’i wneud yn anghywir heddiw; maddau i ni;
Pan fyddwn ni wedi teimlo’n drist; cysura ni;
Pan fyddwn ni wedi teimlo’n ofnus; nertha ni;
Pan fyddwn ni’n teimlo ein bod wedi cael digon.
Rho’r nerth i ni roi cynnig arall arni
Gan ein bod ni ar daith ffydd anhygoel,
ac yn gwybod na fyddi di byth yn ein gadael.
Bendithia’r cartref hwn heno
A boed i ni deimlo dy dangnefedd.
Gweddïwn hyn yn enw Iesu
Dros ein cartref
Arglwydd Dduw,
Fe wnaethost fyw mewn teulu a chwarae mewn pentref.
Gofala am ein teulu a’r lle rydym ni’n byw.
Gweddïo gyda phlentyn
[Hwyrach yr hoffech chi dynnu llun cylchoedd sy’n lleihau ar gyfer pob grŵp o bobl]
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am dy fyd rhyfeddol.
Bydd yn agos at yr holl bobl sydd angen help.
Diolch i ti am fy ffrindiau a’m teulu annwyl
Helpa ni i fod yn garedig i’n gilydd bob amser.
Diolch amdana i.
Cadwa fi’n ddiogel, a gad i fi dyfu’n dda ym mhob ffordd.
Diolch i ti am Iesu.
Bydd yn agos iawn ataf bob amser.
Salm o’r Beibl
‘Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd;
byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’
(Salm 91 adnodau 11-12)
Gweddi i fendithio
Dduw'r Creawdwr,
Diolchwn am y rhodd o fywyd yn y plentyn hwn sydd i’w fedyddio.
Boed i’th fendith o dangnefedd a llawenydd fod gyda nhw a’u diogelu holl ddyddiau eu hoes.
Cyflwynwn y weddi hon yn enw dy Fab, Iesu Grist.
Gweddi o ddiolch a mawl
I blant sy’n rhodd gennyt ti, Dduw Cariadlon,
Rydym ni’n diolch i ti ac yn dy foliannu.
Am chwerthin a gwên dy blant,
Rydym ni’n diolch i ti ac yn dy foliannu.
Am y nosweithiau digwsg a’r golch diddiwedd,
Rydym ni’n diolch i ti ac yn dy foliannu.
Am y nosweithiau dagreuol a’r cwtshys boreol,
Rydym ni’n diolch i ti ac yn dy foliannu.
Am yr holl gariad mae dy blant yn ei ddangos i ni,
Rydym ni’n diolch i ti ac yn dy foliannu.
Gweddi i rieni ei dweud
Bendithia ni rieni wrth i ni ddathlu bedydd ein plentyn.
Gwylia drosom ni fel y byddom yn esiamplau o’th gariad, o’th dangnefedd ac o’th lawenydd i’n plant, i’n ffrindiau ac i bawb a ddaw i gysylltiad â ni.
Bendithia rieni bedydd ein plentyn, wrth iddyn nhw ymrwymo i gefnogi ein plentyn sydd newydd ei fedyddio.
Tywys nhw wrth iddyn nhw gynnig cymorth a chefnogaeth i ni a’n plant, nawr a thrwy eu taith anhygoel mewn bywyd.
Bendithia neiniau a theidiau ein plentyn, wrth iddyn nhw weld eu teulu’n tyfu.
Annog nhw i drosglwyddo eu doethineb gyda thynerwch a gwirionedd, gan gynnig cariad a llawenydd i ni a’n plant.
Bendithia ein ffrindiau, wrth i’n bywydau newid a symud ymlaen.
Ysbrydola nhw i fod yn bresenoldeb sy’n gwrando, yn ddylanwad tawel ac yn ffynhonnell llawenydd wrth i ni rannu profiadau newydd gyda’n gilydd.
Bendithia ein teulu a’n ffrindiau, Dduw Cariadlon, gwylia drosom a gwarchod pob un ohonom.
Gweddi dros bob plentyn
Dduw Cariadlon,
Gweddïwn dros bob plentyn.
Gweddïwn eu bod yn profi ac yn teimlo’r diogelwch y maen nhw’n ei haeddu.
Gweddïwn eu bod yn profi ac yn teimlo’r cariad sy’n eiddo iddyn nhw drwot ti.
Tywys bawb sy’n llais dros blant a phobl ifanc i siarad yn groyw a chlir
fel bod dy holl blant yn profi diogelwch a chysur, cariad a gobaith.
Amen.