Gweddïo mewn Gwasanaethau Bedydd: Syniadau i gynnwys y teulu a ffrindiau
Mae gwasanaethau bedydd - boed yn rhai a gynhelir ym mhrif wasanaeth yr eglwys neu ar wahân - bob amser yn cynnwys amser i weddïo ar gyfer y plentyn, ei rieni a’i rieni bedydd. Does dim llawer o bobl yn gwybod beth i’w gynnwys mewn gweddi, yn enwedig os nad ydyn nhw’n gweddïo’n rheolaidd eu hunain, ond un peth sydd gan bawb yn gyffredin mewn bedydd yw eu bod yn rhan o gynulleidfa lle mae yna lawer iawn o ewyllys da wedi’i ganolbwyntio ar un person: y plentyn sy’n cael ei fedyddio. Yn aml, fe sonnir am fedydd fel dechrau taith, felly bydd pobl hefyd yn meddwl am y dyfodol, a photensial y plentyn yn eu mysg - y math o berson y bydd yn tyfu i fod, y math o fyd y bydd yn byw ynddo, a’r bywyd y bydd yn ei arwain.
Dyma ddwy ffordd i ddefnyddio’r ewyllys da a’r gobeithion, yr ofnau a’r breuddwydion hyn a’u rhoi mewn gweddi a all fod yn rhan o’r gwasanaeth ei hun, a chael effaith hirhoedlog ac ehangach wedyn.
Gweddi Rhieni
Pan fyddwch chi’n ymweld â’r teulu peidiwch ag ofni siarad am weddi - ceisiwch wneud cysylltiadau rhwng yr addewid i weddïo y byddan nhw’n ei wneud yn y gwasanaeth a’r gobeithion a’r breuddwydion a’r diolchgarwch a’r ofnau sydd gan bob rhiant newydd (a ddim mor newydd) pan fyddan nhw’n meddwl am eu plant. Gwahoddwch y rhieni i weithio gyda’i gilydd i lunio gweddi, neu i feddwl am rai geiriau neu gymalau allweddol y gallwch chi eu defnyddio wedyn ar gyfer gweddi.
Gall yr anogaethau hyn fod yn ddefnyddiol:
Wrth feddwl am… [enw’r plentyn]
Rwy’n diolch am… …
Rwy’n gobeithio am … … …
Rwy’n poeni am … … …
Rwy’n dyheu fwy nag unrhyw beth am … … …
Hefyd gofynnwch i’r rhieni anfon llun o’u plentyn atoch. Ar ôl creu’r fersiwn derfynol o’r weddi, defnyddiwch hi, a’r llun, enw’r plentyn, a dyddiad a lleoliad y bedydd, gwnewch y cyfan i edrych yn hyfryd, a’i roi mewn ffrâm (tua A6) fel y gallwch ei gyflwyno iddyn nhw ar y diwrnod. Bydd llawer o deuluoedd yn cadw hwn fel rhywbeth maen nhw’n ei drysori, yn ei arddangos yn eu cartref, a hyd yn oed yn gofyn am fwy o gopïau i’w hanfon at rieni bedydd a neiniau a theidiau.
- Os ydych chi’n ei gadw ar ffurf jpeg a’i e-bostio at y rhieni fe allan nhw ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gallech ei ddefnyddio ar gerdyn dathlu bedydd.
- Beth am argraffu digon o gopïau ar bapur (heb y ffrâm!) i’r teulu a ffrindiau sydd wedi dod i’r bedydd?
- Os cewch chi gyfle i gyfarfod y rhieni bedydd cyn y gwasanaeth, gallech eu gwahodd i ysgrifennu gweddi hefyd.
- Gallech ddefnyddio gweddïau a ysgrifennwyd gan rieni neu rieni bedydd yn y bedydd ei hun - efallai y byddan nhw am ddarllen eu gweddïau eu hunain, neu y byddai’n well ganddyn nhw i’r ficer wneud hynny!
Gweddi Ffrindiau
Mewn bedydd, mae’n bosib y bydd yna ddwsinau o bobl eraill yno - teulu ehangach, ffrindiau a chymdogion, sydd ag un peth yn gyffredin: maen nhw wedi dod i’r eglwys i ddathlu bywyd plentyn, i fod yn rhan o rywbeth, ac i ddymuno’n dda i’r plentyn hwnnw. Mae’r ewyllys da a’r presenoldeb hwn yn rhodd aruthrol. Sut gellir manteisio arno a’i gynnwys yn weddigar yn y gwasanaeth a thu hwnt?
Dyma ddwy ffordd o gynnwys pawb sydd wedi dod i’r bedydd, i gyfrannu eu gweddïau a’u gobeithion eu hunain:
- rhowch nodyn post-it ar bob taflen gwasanaeth, a phensiliau yn y seddau, a gwahoddwch bobl (ar ryw adeg yn y gwasanaeth) i ysgrifennu un gair yn unig ar y post-it, yn mynegi eu gweddi neu eu gobaith ar gyfer y plentyn sy’n cael ei fedyddio. Gallwch ofyn iddyn nhw adael y nodyn post-it ar y daflen gwasanaeth, a’i dynnu i ffwrdd ar ôl y gwasanaeth, neu gallech eu casglu ar ryw bwynt yn ystod y litwrgi. Os oes gan eich eglwys ddigon o arian gallech efaillai brynu nodiadau post-it smart (lliw neis, siâp diddorol a phriodol ac ati).
- Gosodwch fwrdd graffiti mewn man cyfleus i bobl sy’n cyrraedd (neu’n gadael, neu’r ddau) gan eu gwahodd i nodi eu gobeithion a’u gweddïau mewn un gair.
Efallai y byddwch chi’n cael sawl ‘heddwch’, ‘cariad’, ‘ffrindiau’, ‘hapusrwydd’, ‘chwerthin’ ac ati, ac mae hynny’n iawn. Does dim rhaid i bobl ysgrifennu rhywbeth gwahanol i bawb arall - dylid eu hannog i ysgrifennu’r hyn maen nhw’n ei feddwl sy’n bwysig. Fe allan nhw gyfrannu fwy nag unwaith – ond dylai pob un fod yn un gair yn unig.
Sut bynnag yr ewch chi ati i gasglu’r geiriau, yr hyn y byddwch chi’n ei wneud gyda nhw ar ôl y gwasanaeth sy’n gwneud hyn yn rhywbeth hardd. Ewch i www.tagxedo.com neu wefan debyg a theipio’r geiriau (dylech gynnwys pob gair cynifer o weithiau ag y cafodd ei nodi – os gwnaeth 25 o bobl ysgrifennu ‘cariad’ teipiwch y gair 25 o weithiau!), yna cliciwch i greu darn o gelf geiriau hardd sy’n weddi dros y plentyn a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr holl gynulleidfa ar y diwrnod. Ar y rhan fwyaf o wefannau creu cwmwl tag gallwch gydweddu lliwiau, siapiau, ffontiau ac ati.
- Os ydych yn ei gadw ar ffurf jpeg gallwch ei e-bostio at y teulu a’u gwahodd i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu ei e-bostio at eu ffrindiau a ddaeth ar y diwrnod.
- Dim ond sampl yw’r uchod – pan fyddwch chi’n creu hwn i blentyn go iawn gallech deipio ei enw (sawl gwaith) fel ei fod yn ymddangos yn y darn o gelf gorffenedig, i’w wneud yn fwy personol.
- Eto, gallech gadw’r jpeg a’i anfon at y teulu ar ben-blwydd y bedydd, a’u hannog i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Dydy’r cymylau tag ddim yn cynnwys lluniau, felly gallwch gadw albwm ohonyn nhw yn yr eglwys heb i neb orfod poeni am faterion diogelu plant sy’n gysylltiedig â chadw neu arddangos lluniau o blant.
Gan fod y syniadau hyn yn golygu defnyddio cyfrifiaduron a gwefannau, efallai eich bod yn adnabod person ifanc a fyddai’n hoffi eu gwneud i chi, fel rhan o’i weinidogaeth… efallai y bydd ganddyn nhw fwy o syniadau am sut i greu rhywbeth hardd fel anrheg hirhoedlog y gellir ei rannu dros y we i’r rhai sy’n dod i’r eglwys ar gyfer gwasanaeth bedydd.